Rydym yn casglu tystiolaeth ffynhonnell agored i'w defnyddio yn y llys

Rydym yn casglu tystiolaeth ffynhonnell agored i'w defnyddio yn y llys

Yr Her

Gall llygad-dystion i erchyllterau ledled y byd ddefnyddio eu ffonau symudol i gofnodi tystiolaeth mewn amser real. Gall y dystiolaeth hon gan ddinasyddion fod yn ddefnyddiol wrth geisio sicrhau atebolrwydd cyfreithiol, yn enwedig os na fydd ymchwilwyr wedi gallu cael mynediad i’r llefydd hynny ble mae’r erchyllterau wedi digwydd.
Un o’r prif heriau yw sut i ddefnyddio’r dystiolaeth hon i ddod o hyd i ffeithiau a sicrhau atebolrwydd o ran hawliau dynol.

Mae maint y dystiolaeth gan ddinasyddion sy’n cael ei chreu mewn achosion cyfoes o wrthdaro treisgar yn enfawr a hwyrach bydd ymchwilwyr yn ei chael hi’n anodd i ddod o hyd i’r darnau o dystiolaeth mwyaf perthnasol ar gyfer achos penodol. Gall hefyd fod yn brofiad trawmatig gweld a dadansoddi’r dystiolaeth hon, a lleisir pryderon o hyd am sut gall gydymffurfio â’r safonau derbynioldeb y bydd llysoedd yn gofyn amdanyn nhw.

Y Dull

Ers 2018, mae’r Athro Yvonne McDermott Rees yn Ysgol y Gyfraith Hilllary Rodham Clinton (ar y cyd â myfyrwyr MA a PhD) wedi mynd ati i ymchwilio i’r graddau y bydd tystiolaeth gan ffynonellau agored yn gweddnewid y gwaith o ddod o hyd i ffeithiau ym maes hawliau dynol, a sut y gall technoleg helpu i oresgyn rhai o’r rhwystrau sy’n wynebu’r defnydd o’r dystiolaeth mewn llysoedd.

Yn ogystal ag ymchwil gyfreithiol sy’n seiliedig ar nifer fawr o gyfweliadau gydag ymchwilwyr ym maes hawliau dynol, mae’r prosiectau rhyngddisgyblaethol hyn wedi datblygu offer technolegol newydd i gadw a dadansoddi tystiolaeth gan ffynonellau agored. Mae’r prosiectau hyn yn cynnwys gwaith ar y cyd ag academwyr o Brifysgol Heriot-Watt; Prifysgol Caerwysg; Prifysgol Manceinion; Prifysgol California, BerkeleyPrifysgol Carnegie Mellon a Phrifysgol Ateneo de Manila, a’r defnyddwyr ymchwil/partneriaid mewn diwydiant GLAN; Amnest Rhyngwladol; nifer o gyrff y Cenhedloedd Unedig; Syrian Archive; WAPR – Philippines; VFRAME, a Huridocs

Ariannwyd y tîm gan yr ESRC; NESTA; Cherish-DE; Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a’r Gronfa Ymchwil ar Heriau Byd-eang (GCRF).

Yr Effaith

Mae’r ymchwil hon wedi arwain at greu nifer o offer ymarferol defnyddiol, gan gynnwys:

  • Cyfarpar i helpu wrth hidlo symiau mawr o dystiolaeth: gan gynnwys teclyn archifo awtomatig er mwyn cadw tystiolaeth, teclyn FireMap er mwyn monitro pentrefi sy'n llosgi, a thechnegau sy'n defnyddio prosesu iaith naturiol er mwyn canfod iaith casineb yn y cyfryngau cymdeithasol; a
  • Chronfa ddata o ymosodiadau o’r awyr yn yr Iemen, gyda’r bwriad o gydymffurfio â gofynion y llysoedd o ran cadwyni cystodaeth. Mae’r gronfa ddata yn cyfuno nifer o dechnolegau allweddol sy’n caniatáu storio a gweld cynnwys sy’n cael ei greu ar-lein gan ddefnyddwyr yn ogystal â thystiolaeth breifat, a hynny yn yr un lle.
    Mae ymchwilwyr ym maes hawliau dynol yn defnyddio’r rhain yn ymarferol, ac yn y modd hwn maen nhw’n cyfrannu i’r ymdrechion i sicrhau atebolrwydd yn achos rhai o’r erchyllterau mwyaf yn y byd.

I ddysgu rhagor am ein gwaith yn y meysydd hyn, ewch i’n tudalennau cwrs ar gyfer yr LLM mewn Hawliau Dynol a’rMA mewn Heriau Byd-eang: Cyfraith, Polisi ac Ymarfer

Nodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
Nod Cynaliadwy CU - Cyfiawnder
Themau ymchwil prifysgol abertawe