Rydym ni’n helpu i ddatblygu cyfraith a pholisi Cymru

Senedd with Welsh flag

Yr her

Mae dros 20 mlynedd ers sefydlu’r Senedd (neu Senedd Cymru) gyntaf fel Cynulliad Cenedlaethol CymruYn ystod y cyfnod hwn, mae wedi ennill mwy o bwerau i ddatblygu cyfraith a dylanwadu ar bolisi yng Nghymru. Mae ymchwilwyr yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton wedi cyfrannu at ymchwil sy'n dadansoddi ei chynnydd a chynnig awgrymiadau ar gyfer y dyfodol mewn amrywiaeth o gyd-destunau gwahanol; o hawliau dynol ac yn enwedig hawliau plant a chyfiawnder ieuenctid i ddiogelu'r amgylchedd a datblygu awdurdodaeth ar wahân i Gymru.

Y Dull

Mae ein hymchwilwyr wedi ymgysylltu ag amrywiaeth o sefydliadau ar draws Cymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Senedd, yn ogystal â sefydliadau anllywodraethol, i gynorthwyo gyda datblygu cyfraith a pholisi Cymru ac ymateb i heriau megis Brexit ac argyfwng costau byw.

Yr Effaith

Mae sawl enghraifft lle mae ein hymchwilwyr wedi dylanwadu ar y gyfraith, polisi a newid mewn arfer. Er enghraifft, roedd yr Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant yn allweddol wrth lywio deddfwriaeth yng Nghymru er mwyn ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant yng nghyfraith Cymru.  

Ymchwilwyr eraill - Myfyrwyr PhD

  • Joe Janes
  • Gerli Orumaa
  • Alun Thomas
Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
Nod Cynaliadwy CU - Cyfiawnder
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe