Rydym yn gwella mynediad at gyfiawnder

Rydym yn gwella mynediad at gyfiawnder’

Yr Her

Mae hygyrchedd wedi bod yn rhwystr cyson i gyfiawnder a gwasanaethau cyfreithiol, gan effeithio ar ddau begwn y raddfa, gydag aneffeithlonrwydd a phrosesau a dulliau hir sydd wedi dyddio yn y byd modern.

Nid yw’r sector cyfreithiol wedi manteisio ar esblygiad cyflym technoleg tan yn gymharol ddiweddar. Fodd bynnag, gyda galw cynyddol am ffyrdd mwy arloesol ac effeithlon o weithio ac am fynediad gwell at gyfiawnder, mae byd technoleg wedi dechrau treiddio drwodd i'r maes cyfreithiol. Mae TechGyfreithiol yn dod yn bwnc llosg cynyddol, ac mae mabwysiadu deallusrwydd artiffisial, blockchain a dysgu peirianyddol ymhlith y ffyrdd niferus o wella a symleiddio mynediad.

Mae Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru yn mynd i'r afael â'r her o bontio'r bwlch rhwng y gyfraith a hygyrchedd gyda'r nod o wella hygyrchedd cyfreithiol i bawb.

Y Dull

Gyda chefnogaeth Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, mae Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru, sydd wedi'i leoli yn Ysgol y Gyfraith Hilary Rodham Clinton, yn meithrin cymuned TechGyfreithiol. Gan weithio ar y cyd â sefydliadau ar draws y sector cyfreithiol, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector i gefnogi twf a chynaliadwyedd economi technoleg gyfreithiol fywiog, y nod yw gwella mynediad wrth hefyd drawsnewid  darpariaeth gwasanaethau cyfreithiol ledled Cymru a thu hwnt.

Mae ein tîm rhyngddisgyblaethol o ymchwilwyr yn datblygu mewnwelediadau newydd, a gefnogir gan ddata, i wybodaeth gyfreithiol sy'n cefnogi ymchwil TechGyfreithiol trawsnewidiol, gan gyfrannu at dechnolegau arloesol newydd sy'n mynd i'r afael â phroblemau megis cyrchu dogfennau, cynrychiolaeth gwybodaeth, trafod contractau, a mwy. Gan ddod â staff sy'n gweithio ym maes ymchwil academaidd a datblygu meddalwedd ynghyd, mae gan y Labordy gyfle unigryw i ddylunio a darparu manyleb gofyniad cyflym, atebion prototeipio meddalwedd a meddalwedd profi cysyniad ar gyfer twf pellach y maes TechGyfreithiol.

Yr Effaith

Drwy dechnolegau arloesol megis blockchain, deallusrwydd artiffisial, contractau clyfar a data mawr, mae Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru yn gweithio i ddarparu cymorth a gefnogir gan ddata ar gyfer penderfyniadau cyfreithiol, a galluogi ffyrdd craff ac effeithlon o ddarparu cyngor cyfreithiol wedi'i deilwra a gwella hygyrchedd.

Mae prosiectau cydweithredol diweddar  yn cynnwys:

  • Sgwrsfot Hawliau Cyfreithiol
    Wrth ymchwilio i ffyrdd o wneud deddfwriaeth yn fwy hygyrch i'r cyhoedd, creodd y Labordy sgwrsfot rhyngweithiol, gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i ateb cwestiynau a chyfeirio defnyddwyr i ddarpariaethau perthnasol y gyfraith.

    O ystyried y sefyllfa bresennol a'r ansicrwydd y mae nifer o bobl yng Nghymru yn ei wynebu ynghylch tai a hawliau o ran tai, dyluniodd tîm ymchwil y Labordy sgwrsfot i gyd-fynd â Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Gan gyfleu'r Ddeddf ar ffurf y gall peiriant ei darllen, llwyddodd ymchwilwyr y Labordy i ddefnyddio prosesu iaith naturiol i droi'r holl wybodaeth hon yn gronfa ddata cwestiynau ac atebion cyffredin a fyddai'n galluogi'r sgwrsfot i gael gafael yn gyflym ar wybodaeth sy'n briodol ac yn berthnasol i unrhyw gwestiynau a ofynnir gan y defnyddiwr, a rhoi atebion cyflym ac uniongyrchol.

  • My Journey
    Gan weithio gyda Dr Gemma Morgan, Include UK a defnyddwyr y gwasanaeth hwnnw, rhoddodd tîm datblygu meddalwedd y Labordy gymorth wrth greu ap gwe a fydd yn cynorthwyo pobl sy’n cael eu hadsefydlu ar ôl gadael carchar. Mae'r ap yn cynnwys dau ryngwyneb, un i aelodau'r tîm sy'n ymarferwyr cyfiawnder troseddol megis swyddogion y Gwasanaeth Prawf, a'r llall i'r bobl sy'n gadael carchar, sef prif ddefnyddwyr y gwasanaeth.

    Gall pobl sy'n gadael carchar ddefnyddio'r ap i gofnodi eu lles a'u hemosiynau o ddydd i ddydd yn ogystal â chofnodi problemau, ysgrifennu cofnodion dyddiadur a chadw golwg ar eu hapwyntiadau, eu cysylltiadau a'u nodau. Yna gall aelodau'r tîm gael gafael ar yr wybodaeth a nodir gan ddefnyddwyr y gwasanaeth i deilwra cymorth iddynt er mwyn lleihau'r risg y byddant yn troseddu yn y dyfodol.

    Mae gan yr ap swyddogaethau ychwanegol sy'n rhoi cymorth lles, gan gynnwys argymhellion awtomatig ar gyfer gwasanaethau lleol megis banciau bwyd, sy'n cael eu creu'n awtomatig ar sail cofnodion unigol pob defnyddiwr.

  • DRAGON-S
    Gan gefnogi gwaith yr Athro Nuria Lorenzo-Dus, mae'r Labordy wedi cynorthwyo wrth ddatblygu technoleg i atal pobl rhag meithrin perthnasoedd amhriodol â phlant ar-lein fel rhan o brosiect DRAGON-S (Developing Resistance Against Grooming Online: Spotter and Shield), wedi'i ariannu gan fenter Safe Online partneriaeth End Violence.

    Rhoddodd y tîm gymorth wrth greu dau adnodd cysylltiedig: DRAGON-Spotter, adnodd canfod enghreifftiau o berthnasoedd amhriodol ar-lein, a DRAGON-Shield, porth atal perthnasoedd amhriodol ar-lein. Datblygodd y tîm adnodd DRAGON-Spotter fel rhyngwyneb i gynorthwyo asiantaethau gorfodi'r gyfraith wrth ganfod enghreifftiau o feithrin perthnasoedd amhriodol ar-lein. Cafodd adnodd DRAGON-Shield ei ddatblygu hefyd er mwyn trosglwyddo gwybodaeth arbenigol i ymarferwyr diogelu plant am ymddygiad y bobl sy'n meithrin perthnasoedd amhriodol ar-lein a'r plant wrth iddynt gyfathrebu â'i gilydd, drwy borth dysgu.

 Enghreifftiau o bynciau ymchwil y Labordy:

  • Rheoleiddio technolegau Newydd
  • Blockchain a chontractau smart
  • Dadansoddeg gyfreithiol a gwyddor data
  • Safoni’r gynrychiolaeth o wybodaeth gyfreithiol
  • Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan y Labordy

Arweinydd Ymchwil

Stefano Barazza

Arweinydd Ymchwil

Partner Ymchwil

Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop

Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop
Nodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
Peace Heddwch
Reduced inequalities
Themau ymchwil prifysgol abertawe