Rydym ni'n gwella uniondeb addysg uwch

Rydym ni'n gwella addysg uwch

Yr Her

Mae niferoedd cynyddol o'r 200 miliwn a mwy o fyfyrwyr mewn Addysg Uwch (AU) yn fyd-eang yn talu i eraill gyflawni aseiniadau ar eu cyfer. Mae'r broblem hon (twyllo trwy gontract) yn bygwth safonau ac ansawdd Addysg Uwch ledled y byd. Yn 2015, roedd yn gyfreithlon i gwmnïau gynnig y gwasanaethau hyn, ac nid oedd yna ddealltwriaeth dda o'r problemau a achosid.

Mae gwasanaethau masnachol, y cyfeirir atynt weithiau fel 'melinau traethodau', yn cyflawni gwaith mewn llai na phum diwrnod ar gyfartaledd, gyda chwarter yr archebion yn cael eu dosbarthu cyn pen 24 awr. Mae astudiaethau o academyddion yn y DU ac Awstralia wedi dangos mai gwael yw dealltwriaeth academyddion o natur twyllo trwy gontract, ond eto eu bod yn credu ei fod yn gyffredin. Mae'r ymchwil hefyd yn nodi bod yna angen dwys am ragor o addysg i staff a myfyrwyr ynghylch twyllo trwy gontract ac uniondeb academaidd yn gyffredinol.

Y Dull

Aeth yr Athro Phil Newton a'r Athro Michael Draper a'u tîm ati i gynnal arolygon mawr, gwaith ymchwil a dadansoddiadau o farn myfyrwyr a staff academaidd ar dwyllo trwy gontract a chyfreithlondeb melinau traethodau.

Mae'r astudiaethau arolwg mawr yn Awstralia, sydd wedi edrych yn fwy eang ar drefniadau trwy gontractau allanol yn y byd academaidd, wedi dangos bod myfyrwyr yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn cymryd rhan yn yr ymddygiadau hyn pan fyddant yn anfodlon, yn gweld llawer o gyfleoedd i dwyllo, ac yn astudio mewn iaith anfrodorol.

Mae staff yn mynegi pryder nad oes digon o adnoddau ar gael iddynt fynd i'r afael â thwyllo trwy gontract, ac mae masnacheiddio addysg uwch wedi ei gwneud yn fwy tebygol y bydd yr ymddygiadau hyn yn digwydd.

Dangosodd yr ymchwil fod melinau traethodau sydd wedi'u cofrestru yn y DU yn gyfreithlon ar hyn o bryd, ac na fyddai cyfraith bresennol y DU yn effeithiol. Cafodd yr ymchwil ei thrafod sawl gwaith yn Senedd y DU, lle nodwyd cyfyngiadau ychwanegol trwy'r defnydd o ddulliau cyfreithiol i fynd i’r afael â thwyllo trwy gontract.

Ymchwiliodd y tîm i hyn a chynnig y sail ar gyfer deddf newydd, a fyddai'n mynd i'r afael â holl gyfyngiadau'r ddeddfwriaeth bresennol. Yn benodol, mae’r cyfreithiau presennol bedwar ban byd yn ei gwneud yn ofynnol i erlynydd ddangos ‘bwriad’ [helpu myfyrwyr i dwyllo] o du'r felin traethodau, a dangosodd y dadansoddiad fod pob melin traethodau sydd wedi’i chofrestru yn y DU yn defnyddio math o ymwadiad i'w hamddiffyn ei hun rhag honiadau o 'fwriad’. Cynigiodd y tîm y dylid defnyddio deddf 'atebolrwydd caeth' i wrthsefyll yr amddiffyniad hwn.

Yr Effaith

Newidiadau i'r Gyfraith

  • Defnyddiwyd y cynigion hyn i newid y gyfraith yn Awstralia, Iwerddon a Montenegro, ac mewn biliau a ystyriwyd gan Senedd y DU. Mae'r holl gyfreithiau hyn yn ei gwneud yn anghyfreithlon cynnig, neu hysbysebu, gwasanaethau twyllo trwy gontract;
  • Mae Iwerddon ac Awstralia wedi pasio deddfau sy'n ei gwneud yn anghyfreithlon darparu gwasanaethau twyllo trwy gontract, tra bo bil tebyg yn y DU yn mynd rhagddo'n dda. Mae ein hymchwil yn dylanwadu'n uniongyrchol ar y biliau, ac yn dilyn sgyrsiau rhyngom a'r asiantaethau cyfreithiol/ansawdd sydd ynghlwm. Mae ein hymchwil yn cynnig dull cyfreithiol penodol (atebolrwydd caeth) sydd wedi cael ei fabwysiadu'n uniongyrchol yn Awstralia, ac, mewn gwirionedd, yn cael ei ddefnyddio yn Iwerddon;
    • Aeth llywodraeth Iwerddon â bil trwy ei deddfwrfa i wahardd darparu gwasanaethau twyllo trwy gontract masnachol, ynghyd â'u hysbysebu. Cyfarfu Phil Newton a Michael Draper, ill dau, â Llywodraeth Iwerddon a chorff Sicrhau Ansawdd AU Iwerddon (QQI) i roi cyngor ar gynnwys y bil ac i ddarparu adborth ar y drafftiau o’r bil cyn iddo gael ei gyflwyno er ystyriaeth. Mae'r bil bellach yn gyfraith;
    • Aeth llywodraeth Awstralia ati i ddrafftio bil i wahardd gwasanaethau twyllo trwy gontract. Mae'r bil yn dyfynnu ein hymchwil sawl tro ac mae bellach yn gyfraith;
    • Yn y Deyrnas Unedig, cynigiodd yr Arglwydd Storey a’r Farwnes Garden o Frognal welliannau i Fil Addysg Uwch ac Ymchwil 2017, a fyddai’n gwahardd gwasanaethau twyllo trwy gontract. Yn wreiddiol, roedd yr Adroddiad QAA yn awgrymu y dylid defnyddio Deddf Twyll y DU (2006) i fynd i’r afael â thwyllo trwy gontract, ac felly dadansoddodd Newton a Draper y Ddeddf yn unol ag arferion busnes cyfredol cwmnïau ysgrifennu traethodau yn y DU. Daethant i'r casgliad na fyddai'r Ddeddf Twyll yn addas. Datblygwyd cynnig ar gyfer cyfraith newydd mewn ymchwil ddiweddarach gan Newton a Draper. Y papur hwn oedd yr unig ymchwil a ddyfynnwyd mewn llythyr yn 2018 at y Gweinidog Addysg, llythyr a lofnodwyd gan dros 40 o Is-Gangellorion Prifysgolion y DU, yn galw am wahardd melinau traethodau.
    • Tarddodd Deddf Sgiliau ac Addysg Ôl-16 2002 yn Nhŷ’r Arglwyddi yn sesiwn 2021-22, a daeth yn gyfraith pan gafodd Gydsyniad Brenhinol ddydd Iau 28 Ebrill 2022. Yn y Ddeddf y mae adrannau sy'n gwahardd gwerthu cymorth aseiniadau a thraethodau masnachol yn Lloegr i fyfyrwyr dros yr oedran ysgol gorfodol, ac mae hyn hefyd yn cynnwys hysbysebu gwasanaethau o'r fath.

Newidiadau i amgylchedd rheoleiddio Addysg Uwch (AU)

  • Rydym wedi disgrifio’r broblem yn fanwl, ac mae hyn wedi arwain at well dealltwriaeth ymhlith yr holl randdeiliaid.
  • Roedd yr Athro Newton yn rhan o'r gweithgor a gynullwyd i gynghori ar adroddiad i reoleiddiwr Addysg Uwch y DU – yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (ASA).
  • Mae Adran Addysg y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid ledled y sector i fynd i'r afael â thwyllo trwy gontract. Ar 20/03/2018, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg ddatganiad i'r wasg yn manylu ar y gwahanol fesurau y mae'r adran yn ymgymryd â nhw, ac yn galw ar bartneriaid allanol i fynd ati yn yr un modd. Mae’r datganiad yn cyfeirio’n uniongyrchol at yr ymchwil uchod, a drafodwyd yn rhan o’r ddadl ddilynol, yn cynnwys gan Newton ar y rhaglen Today ar BBC Radio 4. Dilynwyd hyn gan lythyr at y Gweinidog Addysg a lofnodwyd gan 46 o lofnodwyr, yn cynnwys dros 40 o Is-Gangellorion Prifysgolion y DU. Roedd y llythyr hwn yn galw arno i ddeddfu deddfwriaeth i wahardd melinau traethodau, ac yn dyfynnu papur 2 uchod yn enghraifft o gyfraith ymarferol y gellid ei deddfu.
  • Mae Cyngor Ewrop yn ymgymryd â phrosiect i fynd i'r afael â llygredigaeth mewn addysg (ETINED), prosiect sy'n rhoi ffocws penodol ar dwyllo trwy gontract. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo, ar gofnod, i gytundeb rhwymol (Fframwaith Polisi) ledled aelod-wladwriaethau i fynd i'r afael yn ehangach â thwyllo trwy gontract a thwyll academaidd. Mae’r Athro Newton a’r Athro Draper, ill dau, wedi rhoi ‘tystiolaeth arbenigol’ i’r llwyfan hwn ar sawl achlysur, ac mae’r Athro Draper yn un o ddau gyfreithiwr sy’n rhan o'r gwaith o ddrafftio’r Cytuniad (Fframwaith Polisi), a fydd yn cael ei fabwysiadu gan aelod-wladwriaethau yn 2021 yn dilyn cymeradwyaeth mewn egwyddor i ddrafft cyntaf a roddwyd gan gynrychiolwyr o aelod-wladwriaethau ym Mhrag 2019.
  • Mae ymchwil yr Athro Newton hefyd wedi cyfrannu'n anuniongyrchol trwy ETINED at Gyfraith newydd ar Uniondeb Academaidd yn Montenegro.
Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
addysg o ansawdd
Nod Cynaliadwy CU - Cyfiawnder
Themau ymchwil prifysgol abertawe