Debbie Jones

Yr Athro Deborah Jones

Athro, Criminology, Sociology and Social Policy
130
Llawr Cyntaf
Adeilad Richard Price
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Debbie'n Athro Troseddeg ac ar hyn o bryd yn Bennaeth interim Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Hi oedd Arweinydd Addysg Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol cyn hyn ac mae hefyd yn Uwch-gymrawd yr Academi Addysg Uwch. Mae Debbie wedi cael sawl rôl rheoli ac arwain mewn addysg uwch.  Bu'n arholwr allanol ar gyfer sawl rhaglen yn y DU ac roedd hi'n rhan o banel y QAA a wnaeth ddiwygio'r Datganiad Meincnod ar gyfer Troseddeg.

Cyn dechrau ar ei gyrfa academaidd yn 2008, roedd Debbie'n Swyddog gyda Heddlu'r Met yn Llundain yn arbenigo mewn troseddau mawr ac amddiffyn plant ac mae'n Gymrawd y Coleg Plismona. Ynghyd â'r Athro Tracey Sagar, mae Debbie'n gyd-Gyfarwyddwr y Consortiwm ar gyfer Astudiaethau Rhywioldeb ac ers 2008 mae Debbie wedi bod yn ymchwilio i reoleiddio'r diwydiant rhyw mewn partneriaeth â Tracey.  Mae eu prosiectau wedi cynnwys 'Ymchwil ar Waith Rhyw yng Nghymru'; ‘Canfyddiadau’r gymuned o waith rhyw’; 'Gwaith rhyw a chamddefnyddio sylweddau' a 'Prosiect Gwaith Rhyw Myfyrwyr'.

Mae Debbie'n aelod o sawl bwrdd ymgynghori allanol ac yn aelod sefydlu Grŵp Diogelwch Gweithwyr Rhyw Cymru Gyfan. Yn fwy diweddar, mae Debbie wedi troi ei sylw at rôl addysg uwch mewn hwyluso ymatal rhag troseddu. Mae newydd orffen prosiect a ariennir gan y Gymdeithas Ymchwil i addysg uwch. Gallwch ddarllen mwy am y prosiect ar-lein.

Drwy gydol ei gwaith ymchwil, mae Debbie wedi canolbwyntio ar ddatblygu methodolegau sy'n gynhwysol ac yn greadigol ac mae wedi ceisio gwneud ymchwil academaidd yn hygyrch i'r gymuned drwy gyfres o weithgareddau addysgol i'r cyhoedd.

Meysydd Arbenigedd

  • Rheoleiddio'r diwydiant rhyw
  • Addysg Uwch ac Ymatal rhag Troseddu
  • Methodolegau Arloesol a Chyfranogol
  • Troseddeg ac Addysg Gyhoeddus
  • Addysgu a Dysgu

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu
  • Deall Plismona
  • Masnachu mewn Pobl a Chaethwasiaeth Fodern
  • Rheoleiddio'r Diwydiant Rhyw
  • Deall Ymatal rhag Troseddu
  • Theori Troseddegol
  • Dulliau Ymchwil
  • Addysg Gyhoeddus drwy ddatblygu hyfforddiant DPP i ymarferwyr
Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau