Singleton Campus photograph
Daniel Nehring

Dr Daniel Nehring

Uwch-ddarlithydd Cymdeithaseg, Criminology, Sociology and Social Policy

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae ymchwil Daniel Nehring yn ystyried canlyniadau personol (dad)globaleiddio a phroses fwyfwy cyflym ac anrhagweladwy'r broses o ail-greu'r byd cymdeithasol. Yn y cyd-destun hwn, mae’n gweithio ar ddau faes ymchwil. Mae’r cyntaf yn ystyried lledaeniad trawswladol gwybodaeth ac, yn benodol, gynhyrchu traws-ffiniol, cylchrediad a defnyddio disgwrs seicotherapiwtig. Mae’r ail yn ystyried profiadau ac arferion yr hunan, perthyn a pherthnasoedd rhyngbersonol mewn sefydliadau penodol mewn lleoedd cymdeithasol trawsgenedlaethol, gyda diddordeb penodol mewn bywydau mudwyr tra medrus. Drwy ddau faes ymchwil, mae Daniel yn gobeithio cyfrannu at ‘droad byd-eang’ cychwynnol cymdeithaseg, wrth ychwanegu at ddealltwriaeth gymdeithasegol o batrymau sy’n newid a phosibiliadau bywyd cymdeithasol trawswladol ar yr un pryd.

Yn gyffredinol, mae ysgoloriaeth Daniel yn rhyngwladol ei natur. Mae wedi byw a gweithio mewn deg gwlad yn Ewrop, Gogledd a De America, Dwyrain Asia, ac yn fwyaf diweddar, wedi bod yn Athro Cysylltiol Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Dwyrain Tsieina yn Shanghai. Mae ganddo brofiad ymchwil helaeth yn Nwyrain Asia (Tsieina, De Corea), America Ladin (Mecsico, yr Ariannin), a’r Caribî (Trinidad a Thobago). Ar gyfer yr ymchwil hon, dyfarnwyd cyllidgan ystod amrywiol o sefydliadau academaidd ac anacademaidd i Daniel, megis yr Academi Brydeinig, Menywod y CU neu Gronfa Poblogaeth y Cenhedloedd Unedig.

Mae gwaith Daniel wedi cael ei gyhoeddi’n eang mewn cyfnodolion megis British Journal of Sociology, Sociology, International Sociology, Consumption Markets & Culture neu Sociology of Health & Illness. Mae hefyd yn awdur neu’n olygydd saith llyfr, gan gynnwys llyfrau a gyhoeddwyd yn ddiweddar ganddo, Handbook of Global Therapeutic Cultures (Routledge, 2020) a Therapeutic Worlds (Routledge, 2019; a enwebwyd ar gyfer Gwobr Llyfrau Sefydliad Cymdeithaseg Iechyd a Salwch (DU) 2020. Mae’n olygydd y gyfres lyfrau Routledge Therapeutic Cultures (cliciwch yma am ragor o wybodaeth) ac mae’n sylfaenydd ac yn gynullydd rhwydwaith academaidd rhyngwladol Popular Psychology, Self-Help Culture and the Happiness Industry (gweler yma). Ar hyn o bryd, mae’n aelod o fwrdd golygyddol y cyfnodolion Sociology a Sociological Research Online.

Meysydd Arbenigedd

  • - Trawsgenedlaetholdeb
  • - Globaleiddio
  • - Cymdeithaseg ddiwylliannol
  • - Mudo
  • - Seicoleg feirniadol
  • - Dulliau Ansoddol
  • - Dwyrain Asia
  • - America Ladin a'r Caribî

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu
Teaching Interests
  • Damcaniaeth Gymdeithasol
  • Dulliau ymchwil a dadansoddi data meintiol ac ansoddol
  • Globaleiddio a thraws genedlaetholdeb
  • Cymdeithaseg ddiwylliannol
  • Mudo
  • Rhywioldeb
Ymchwil Prif Wobrau