Dr Maria Pournara

Aelod Cyswllt, Other/Subsidiary Companies - Not Defined

Trosolwg

Daw Dr Maria Pournara o Kavala, Gwlad Groeg ac mae wedi byw yng Nghaerdydd ers 2014. Cyn dod i Brifysgol Abertawe, bu'n ymchwilydd doethurol ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn diwtor ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd (2014-2019). Mae ganddi MSc mewn Dadansoddi Trosedd o Brifysgol Southampton (2013-2014). Cyn hynny, bu'n gweithio fel cyfreithiwr yn ymarfer yn bennaf ym meysydd Cyfraith Droseddol a Hawliau Dynol yn Thessaloniki, Gwlad Groeg (2008-2013).

Mae ei phrif ddiddordebau ymchwil ym meysydd plismona a gwneud penderfyniadau, troseddu cyfundrefnol, cudd-wybodaeth a phroblemau cymdeithasol. Mae ei hymchwil ddoethurol wedi archwilio penderfyniadau'r heddlu wrth fynd i'r afael â throseddu cyfundrefnol ac yn fwy penodol y prosesau o ddehongli a blaenoriaethu problemau troseddu yn y DU.

Meysydd Arbenigedd

  • Plismona
  • Troseddu cyfundrefnol
  • Cudd-wybodaeth
  • Problemau cymdeithasol