aerial shot of singleton campus
head shot of mike harrison

Dr Michael Harrison

Darlithydd Troseddeg (Ymchwil Uwch), Criminology, Sociology and Social Policy

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Ymunodd Dr Mike Harrison ag Adran Troseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol Prifysgol Abertawe yn 2022.  Mae wedi gweithio yn y byd academaidd ers 2010 lle mae wedi addysgu myfyrwyr troseddeg israddedig ac ôl-raddedig, a recriwtiaid newydd i'r heddlu ar sawl cwrs Fframwaith Cymwysterau Addysg yr Heddlu. 

Mae gan Mike nifer o ddiddordebau ymchwil yn gysylltiedig â phlismona.  Cyn dechrau ei PhD yn 2015, roedd Mike eisoes wedi cyhoeddi a gweithio ar brosiectau’n ymwneud â phlismona trefn gyhoeddus.  Aeth ei ymchwil PhD ati i ddadansoddi’n feirniadol ddehongliad heddlu lleol o ganllawiau plismona trefn gyhoeddus, ac arferion yn gysylltiedig â chanllawiau plismona trefn gyhoeddus.  Mae gan Mike ddiddordeb hefyd yn hunaniaeth yr heddlu yng Nghymru, plismona a chyfiawnder troseddol o fewn llywodraethu datganoledig Cymru, a dylanwad ac effaith neoryddfrydiaeth ar blismona, ac mae wedi cyhoeddi papurau a phenodau llyfrau ar y pynciau hynny.  Y tu hwnt i blismona, mae gan Mike ddiddordeb hefyd mewn troseddeg feirniadol a semioleg. 

Yn 2015, cefais fy ngwahodd i Ankara, Twrci fel ymgynghorydd ar brosiect 'Gwella'r Gallu i Ddadansoddi ac Atal Troseddau yn Nhwrci' a ariannwyd gan amrywiaeth o adrannau llywodraethol ac anllywodraethol.  Prif nod y prosiect oedd cynyddu diogelwch a diogeledd personol y boblogaeth drwy ddatblygu a gwella gallu sefydliadol y Gendarmerie a Heddlu Cenedlaethol Twrci i gynnal dadansoddiad ac asesiad mwy effeithiol o droseddau.

 

Meysydd Arbenigedd

  • Plismona trefn gyhoeddus
  • Anrhefn torfol
  • Plismona a chyfiawnder troseddol yng Nghymru
  • Cyfiawnder yng ngwledydd datganoledig y DU
  • Neoryddfrydiaeth
  • Hunaniaeth a diwylliant yr heddlu

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

 

  • Harrison, M. (2020) 'Public Order Police Management: An Analysis of a Local Force'. Centre for Criminology Talks, University of South Wales, 8 Jan
  • Harrison, M. (2017) ‘Some thoughts on accountability in public order policing’. Welsh Centre for Crime and Social Justice. Gregynog Hall, 2 May
  • Harrison, M. (2016) 'Policing pickets or police picketing- a critical review of the contradictory messages of the Trade Union Bill 2015-16 and contemporary public order police strategy'. UK/Irish Branch of European Group for the Study of Deviance and Social Control. Abertay University, 31st March
  • Burton, P., Davies, R. and Harrison, M. (2015) ‘A Research Investigation in Children’s and Young People’s Perceptions and Experiences of Peer Groups or Gang Activities in the City of Southampton’. Southampton City Council’s Community Safety Office 
  • Harrison, M. and Adlard, J. (2014) 'Proactive Policing- a case study review of language used in public orderpolice settings’. Southampton Solent University Criminology Research Group, 30 April
  • Harrison, M., Hayes, M. and Norris, P. (2010) ‘Football Hooliganism and Public Order Policing: The Contested Interface between Cultural Identity and Security’. Laurie McMenemy Football Research Centre, Southampton Solent University, 19 May