Golwg o Gampws Singleton gan gynnwys Parc Singleton a’r traeth, gyda’r môr yn ymestyn i’r gorwel
Llun proffil o Dr Mengwei Tu

Dr Mengwei Tu

Uwch-ddarlithydd Cymdeithaseg, Criminology, Sociology and Social Policy

Cyfeiriad ebost

306
Trydydd Llawr
Adeilad Keir Hardie
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Cwblhaodd Mengwei ei PhD mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Caint, a bu'n Ddarlithydd Seicoleg am bum mlynedd yn Tsieina cyn dychwelyd i'r DU i fod yn Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae ymchwil Mengwei yn canolbwyntio ar fudo rhyngwladol, yn benodol ar ddwy ffrwd: yn gyntaf, mae'n edrych ar garfanau myfyrwyr rhyngwladol sy’n hanu o Tsieina ac sy’n mynd i Tsieina ac yn ymchwilio i'w llwybrau gyrfaol a mudo ar ôl eu hastudiaethau; yn ail, mae'n archwilio ochr deuluol gweithwyr medrus iawn sy'n mudo drwy gynnal ymchwil hydredol ansoddol i deuluoedd trawswladol rhwng Tsieina a'r DU. Mae ei gyrfa academaidd ar draws Tsieina a'r DU wedi ei galluogi i gynnal ymchwil empirig yn y ddwy wlad, gan ddatblygu dealltwriaeth drawswladol a chymharol o bynciau ei hymchwil.

Mengwei yw awdur y llyfr "Education, migration, and family relations between China and the UK" (Emerald, 2018). Mae hefyd yn arwain prosiect a ariennir o'r enw “Myfyrwyr/graddedigion o wledydd y Ffordd Sidan yn Tsieina: rhwydweithiau mudo a llwybrau gyrfaol” (2018-2023).

Mae'n aelod o fwrdd golygyddol Sociology. Mae hi hefyd yn aelod o fwrdd golygyddol y British Journal of Sociology of Education.

Meysydd Arbenigedd

  • Trawsgenedlaetholdeb
  • Mudo rhyngwladol
  • Symudedd myfyrwyr rhyngwladol
  • Teuluoedd a newidiadau cymdeithasol yn Tsieina
  • Dulliau ansoddol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

• Cymdeithaseg mudo
• Hil, ethnigrwydd a hunaniaeth
• Dulliau ymchwil ansoddol
• Dylunio ymchwil a moeseg ymchwil
• Cymdeithas Tsieina

Ymchwil Prif Wobrau