Singleton campus aerial
Charlotte Jones header

Dr Charlotte Jones

Darlithydd Cymdeithaseg, Criminology, Sociology and Social Policy

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
327A
Trydydd Llawr
Adeilad Keir Hardie
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae diddordebau Charlotte ym meysydd rhywedd, rhywioldeb, anabledd ac iechyd, yn enwedig lle mae’r meysydd hyn yn gorgyffwrdd. Mae ei phrif ddiddordeb ymchwil yn canolbwyntio ar ddamcaniaethu a meddygoli rhyw. Mae'r gwaith hwn yn archwilio  profiadau pobl ag amrywiadau o ran nodweddion rhyw neu nodweddion rhyngrywiol, gyda phwyslais ar gydnabyddiaeth, gofal a chyfiawnder.

Ymunodd Charlotte ag Abertawe yn 2022 fel Darlithydd mewn Cymdeithaseg. Cyn hyn, roedd hi'n Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Wellcome ar gyfer Diwylliannau ac Amgylcheddau Iechyd ym Mhrifysgol Caerwysg (2019-2022).    Yn ystod y cyfnod hwn, arweiniodd Charlotte dri phrosiect ymchwil a grëwyd ar y cyd: un yn archwilio ffyrdd newydd o feddwl am (an)ffrwythlondeb, amrywiadau o ran nodweddion rhyw, ac oes yr unigolyn, sef  (Reprofutures); ail brosiect yn mynd i'r afael ag ofnau am drosglwyddo feirysau ac effaith mesurau hylendid newydd ar weithwyr lletygarwch yn ystod pandemig Covid-19, sef (Beers, Burgers + Bleach); a thrydydd prosiect ar unigrwydd a pherthyn yn achos pobl LGBTQIA+, lle bu'n gweithio gyda'r dramodydd Natalie McGrath i lwyfannu cynhyrchiad theatrig gwreiddiol, sef (The Beat of Our Hearts). Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Cyngor Ymchwil i'r Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) i Charlotte i gwblhau'r gwaith hwn.

Mae Charlotte hefyd wedi cyflawni swyddi ymchwil yn Sefydliad Usher ym Mhrifysgol Caeredin (2018-2019) ac ym Mhrifysgol Brunel (2016-2018). Cyn hyn, bu'n Gymrawd Ymchwil ar gyfres o brosiectau a ariannwyd gan AHRC o'r enw Around the Toilet (2015-2018).  Roedd y gwaith hwn yn archwilio’n feirniadol y syniad o (ddiffyg) hygyrchedd drwy ystyried rhywedd ac anabledd yng nghyd-destun y toiled. Enillodd y tîm Wobr Engage NCPPE am y prosiect hwn yn 2016.

Mae Charlotte yn aelod o'r bwrdd golygyddol ar gyfer The Sociological Review, ac yn gyd-sylfaenydd Queer Disability Studies Network, sef cydweithrediad rhyngwladol rhwng myfyrwyr, academyddion a gweithredwyr, sy’n canolbwyntio ar faterion lle mae astudiaethau cwiar/traws ac anabledd/”crip” yn gorgyffwrdd.

Meysydd Arbenigedd

  • Amrywiadau o ran nodweddion rhyw ac astudiaethau rhyngrywiol
  • Rhywedd, ffeministiaeth a chyfiawnder cymdeithasol
  • Rhyw ac ymgorfforiad
  • Rhywioldeb, LGBT+, ac astudiaethau cwiar
  • Astudiaethau anabledd beirniadol
  • Iechyd, diagnosis a meddygoli

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Damcaniaeth Gymdeithasol

Rhyw a ffeministiaeth

Astudiaethau rhyw, rhywioldeb a materion cwiar

Mudiadau cymdeithasol a chyfiawnder cymdeithasol

Dulliau Ansoddol

Cymdeithaseg feirniadol anabledd, iechyd a salwch

 

Ymchwil Prif Wobrau