Lella Nouri

Dr Lella Nouri

Athro Cyswllt, Criminology, Sociology and Social Policy

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
152
Llawr Cyntaf
Adeilad Richard Price
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig
Sylwebydd y Cyfryngau

Trosolwg

Diogelwch Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae Lella hefyd yn cynnal prosiect effaith gymunedol mewn perthynas â’r prosiect atal troseddau casineb, Flip the Streets, sy'n helpu cymunedau i feithrin gwytnwch i gasineb. Ochr yn ochr â hyn, mae Lella wedi ymchwilio'n helaeth i ddefnydd terfysgwyr o'r rhyngrwyd gan gynnwys naratifau'r asgell dde eithafol a'u lledaeniad drwy'r cyfryngau cymdeithasol ac mae wedi cynnig argymhellion ar gyfer polisi ac ymatebion cymunedol. Yn ogystal â chyd-drefnu nifer o ddigwyddiadau cymunedol ac academaidd ar y pynciau hyn, gan gynnwys gweithdy VOX-Pol ynghylch yr asgell dde eithafol, mae Lella wedi cyhoeddi amrywiaeth o gasgliadau wedi'u golygu, erthyglau mewn cyfnodolion, penodau llyfrau, adroddiadau ymchwil a blogiau drwy gyhoeddwyr blaenllaw yn y maes. Mae gwaith effaith gymunedol ac ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth wraidd ei hymchwil. Yn fwyaf diweddar mae Lella wedi'i phenodi'n Arbenigwr Ymchwil Cymru Wrth-hiliol ar gyfer Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol fel rhan o'r Grŵp Atebolrwydd Allanol. Mae hi hefyd yn aelod gweithgar o'r rhwydweithiau/grwpiau arbenigol canlynol: yr Academic-Practitioner Counter Extremism Network (APCEN) ar gyfer y Comisiwn Gwrth-eithafiaeth (Swyddfa Gartref y Deyrnas Unedig), yn aelod o'r Accelerated Capability Environment (ACE) Research Network, Homeland Security Group yn Swyddfa Gartref y DU yn ogystal â'r UK Counter-Terrorism Policing Evidence-Based Review Group. Yn 2017/18, roedd gan Lella rôl ysgolhaig gwadd ym Mhrifysgol Califfornia, Santa Barbara ar Ddyfarniad Seiberddiogelwch Fulbright. Mae Lella hefyd yn awyddus i weithio ar draws y Brifysgol ac ar hyn o bryd mae'n un o Gymrodorion Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan y Brifysgol ac yn Gyd-gadeirydd Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol y Brifysgol (SIREN).

Meysydd Arbenigedd

  • Gwrthderfysgaeth
  • Yr asgell dde eithafol
  • Defnydd terfysgwyr o'r rhyngrwyd
  • Radicaleiddio
  • Troseddau casineb
  • Gwrth-hiliaeth
  • Cydraddoldeb hiliol a'r System Cyfiawnder Troseddol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Prif Wobrau
Lella

Mae Lella wedi cael yr anrhydeddau canlynol yn ystod y blynyddoedd diweddar:

  • 2023 - Enillydd y Wobr Cyflawniad Cymdeithasol a Dyngarol - Cymdeithas Cydnabod Llwyddiant Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnig (EMWWAA)
  • 2017/18 - Dyfarniad Ysgolhaig Seiberddiogelwch Fulbright - rôl ysgolhaig gwadd ym Mhrifysgol Califfornia, Santa Barbara
  • Seren Ymchwil ac Arloesi'r Dyfodol, Enillydd ar ddechrau gyrfa yng Ngwobrau Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Abertawe 2018
  • Gwobr Menyw sy'n Ysbrydoli ar gyfer dathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod Prifysgol Abertawe 2017
  • Y Prosiect Ymchwil i Seiberderfysgaeth oedd enillydd y Wobr am Gydweithrediad Ymchwil Eithriadol yng Ngwobrau Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Abertawe 2016
  • Gwnaeth gais llwyddiannus am le ar Raglen Crwsibl Ymchwilwyr ar Ddechrau Gyrfa Economi Ddigidol CHERISH-DE yn 2016.
  • Yn ail yn y Gwobrau Effaith Ymchwil (Cyfraniad Rhagorol at y Gyfraith a Pholisi Cyhoeddus) ym Mhrifysgol Abertawe yn 2015
  • Tystysgrif Teilyngdod gan Wobr Cymuned Ymchwil Fforwm Ymchwil Prifysgol Abertawe, ar gyfer y Prosiect Seiberderfysgaeth, yn 2013
  • Yn ail yng Nghystadleuaeth Ymchwil fel Celf Prifysgol Abertawe, ar gyfer y Prosiect Seiberderfysgaeth, yn 2013
Cydweithrediadau