Dr Reza Montasari

Uwch-ddarlithydd mewn Bygythiadau Seiber, Criminology, Sociology and Social Policy

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602422

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr. Reza Montasari yn Uwch Ddarlithydd mewn Bygythiadau Seiber yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton. Ymunodd â'r Ysgol ym mis Awst 2020 yn dilyn ei swydd fel Uwch Ddarlithydd mewn Seiberddiogelwch ym Mhrifysgol Huddersfield. Cyn hynny, bu’n Ddarlithydd mewn Fforenseg Ddigidol ym Mhrifysgol Dinas Birmingham ac yn Gynorthwyydd Addysgu Ôl-raddedig ym Mhrifysgol Derby.

Cafodd Reza ei BSc (Anrh) mewn Cyfrifiadura Amlgyfrwng ac MSc mewn Fforenseg Gyfrifiadurol o Brifysgol De Cymru a'i PhD mewn Fforenseg Ddigidol o Brifysgol Derby. Mae'n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (FHEA), yn Beiriannydd Siartredig (CEng), yn Aelod o'r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET), ac yn Aelod o Gymdeithas Siartredig y Gwyddorau Fforensig (MCSFS).

Mae prif ddiddordebau ymchwil Reza ym meysydd Fforenseg Ddigidol a Seiberddiogelwch ond maent hefyd yn cynnwys Cyfraith Seiber a Seiberdroseddeg. Mae wedi ysgrifennu nifer o erthyglau i gyfnodolion, papurau cynhadledd, penodau llyfrau, erthyglau yn y cyfryngau ac yn ddiweddar bu’n gyd-awdur cyfrol wedi'i olygu yn ei feysydd arbenigedd. Mae Reza’n aml yn rhoi cyflwyniadau mewn cynadleddau amrywiol gan gynnwys y Gynhadledd Ryngwladol flynyddol ar Ddiogelwch, Diogeledd a Chynaliadwyedd Byd-eang (ICGS3). Mae hefyd wedi rhoi nifer o sgyrsiau gwadd gan gynnwys ei gyflwyniad diweddar yng Nghynhadledd Genedlaethol y Gwanwyn yr Ymchwilydd Cyfryngau Digidol (DMI) a drefnwyd gan y Coleg Plismona a The Investigator (Rhydychen, Y DU., 2019).

Mae Dr. Montasari yn gwasanaethu fel Aelod o Fyrddau Golygyddol, Aelod o Bwyllgorau Llywio Rhaglenni ac Adolygydd ar gyfer nifer o gyfnodolion a chynadleddau rhyngwladol blaenllaw ym meysydd Fforenseg Ddigidol a Seiberddiogelwch. Yn y gorffennol mae wedi gweithio gyda Phencadlys Heddlu Swydd Gaer ac Unedau Troseddau Uwch-Dechnoleg Heddlu De Cymru a Gwent. Mae wedi'i gofrestru fel Arbenigwr Academaidd gyda rhaglenni materion cyfoes Channel 4 i roi cyngor ar Seiberddiogelwch a materion Fforenseg Ddigidol. Mae hefyd yn Awdur Gwadd ar gyfer Today’s Legal Cyber Risk i roi cyngor ar y materion Seiberddiogelwch diweddaraf.

Mae Reza yn oruchwyliwr ac yn arholwr profiadol gydag ymgeiswyr israddedig ac ôl-raddedig, ac yn ddiweddar fe'i penodwyd yn Arholwr Allanol i Brifysgol De Cymru.

Meysydd Arbenigedd

  • - Fforenseg Ddigidol
  • Seiberddiogelwch
  • Bygythiadau Seiber
  • Seiberderfysgaeth
  • Ymchwiliad Fforensig Digidol i Gerbydau Awyr Di-griw a Dyfeisiau IoT
  • Delweddu Data
  • Dulliau, Canllawiau, Polisïau a Safoni

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu
  • Plismona Digidol
  • Seiberdroseddeg
  • Fforenseg Ddigidol
  • Plismona Digidol
  • Seiberddiogelwch
  • Seiberdroseddu
  • Dysgu Peirianyddol
  • Kali Linux
  • Dadansoddi Systemau Ffeiliau