Singleton Campus aerial
Amaha Senu headshot

Dr Amaha Senu

Darlithydd mewn Troseddeg, Criminology, Sociology and Social Policy

Cyfeiriad ebost

327A
Trydydd Llawr
Adeilad Keir Hardie
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae ymchwil Amaha Senu yn canolbwyntio ar leoedd morol i archwilio materion mudo a symudedd, diogelwch a ffiniau, diogelwch morol a llywodraethu byd-eang, a globaleiddio a throseddu. Mae ei ddiddordebau addysgu'n cynnwys troseddau gan y wladwriaeth a throseddau gan bobl rymus, globaleiddio a niwed, ymagweddau beirniadol mewn Troseddeg a dulliau ymchwil.

Ymunodd â'r Adran Troseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn 2022 fel Darlithydd mewn Troseddeg. Mae'n Uwch-gymrawd Ymchwil yn Sefydliad Astudio Uwch Johannesburg ac yn Gymrawd Cysylltiol yng Nghanolfan Ymchwil Ryngwladol y Morwyr.

Mae gan Amaha ddiddordeb mewn goruchwylio prosiectau ymchwil sy'n ymwneud â’r canlynol:

  • troi mudo'n fater diogelwch ac yn drosedd
  • diogelwch a throseddu morol
  • globaleiddio a niwed/troseddu
  • preifateiddio diogelwch/rheoli troseddu
  • rheolaeth, grym/gwrthsefyll, a thrais mewn rhwydweithiau logisteg

Meysydd Arbenigedd

  • Morgludiant byd-eang
  • Globaleiddio
  • Diogelwch a throseddu morol
  • Mudo