Yr Athro Peter Raynor

Athro Troseddeg, Criminology, Sociology and Social Policy

Cyfeiriad ebost

Trosolwg

Bu’r Athro Raynor yn gweithio fel swyddog prawf tan 1975, ac mae llawer o'i ymchwil wedi ymwneud â'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer arferion prawf effeithiol. Mae wedi cynnal ymchwil ar ddioddefwyr troseddau, gwasanaethau cyffuriau ac alcohol, troseddwyr ifanc, addysg gwaith cymdeithasol, pobl ifanc ddi-waith, gwaith prawf dwys, a'r berthynas rhwng adsefydlu a chyfiawnder ac amrywiaeth o bynciau cyfiawnder troseddol eraill.

Mae cyfres o astudiaethau wedi eu hariannu gan y Swyddfa Gartref ers dechrau'r 1990au wedi cynnwys gwaith ar ansawdd ac effeithiolrwydd adroddiadau cyn dedfrydu; cynllun peilot o raglen ymddygiad gwybyddol ar gyfer troseddwyr; cadarnhau swyddogion prawf mewn penodiadau; asesiadau o risg ac anghenion mewn gwasanaethau cywiro; ailsefydlu carcharorion dedfrydau tymor canolig a byr, ac anghenion a phrofiadau gweithwyr prawf sy’n bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill. Mae hefyd wedi gweithio ar ddatblygu gwasanaethau ailsefydlu carcharorion ar gyfer Gweinyddiaeth Gyfiawnder Romania.

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Mae'r Athro Raynor wedi cynhyrchu dros ddau gant o gyhoeddiadau, ac wedi gwneud gwaith ymchwil ar:

Ddioddefwyr troseddau (ar gyfer Cymorth i Ddioddefwyr, roedd yn un o sylfaenwyr a chadeirydd ei bwyllgor ymchwil), gwasanaethau cyffuriau ac alcohol (ar gyfer y Cyngor Addysg ac Ymchwil Alcohol, y Swyddfa Gartref a'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid), troseddwyr ifanc (ar gyfer Cymdeithas y Plant), addysg gwaith cymdeithasol (ar gyfer CCETSW), pobl ifanc ddi-waith (ar gyfer ESRC), gwaith prawf dwys, a'r berthynas rhwng adsefydlu a chyfiawnder (gyda chefnogaeth Sefydliad Nuffield), datblygu gwasanaethau ailsefydlu carcharorion (ar gyfer Gweinyddiaeth Gyfiawnder Romania), ac amrywiaeth o bynciau cyfiawnder troseddol eraill (ar gyfer y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, Gwladwriaeth Jersey ac eraill).

Prif Wobrau Cydweithrediadau