Trosolwg
Ymunodd Rick â chyfadran Ysgol y Gyfraith yn 2018. Mae wedi cael ei alw yn 'ffigwr allweddol ym maes newydd polisi cyffuriau a hawliau dynol', ac mae'n adnabyddus am ei ymchwil a'i addysgu blaenllaw ar bynciau gan gynnwys cyfraith rheoli cyffuriau ryngwladol, hawliau carcharorion, HIV a hawliau dynol, y gosb eithaf a lleihau niwed. Cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe, bu Rick yn gweithio am dros 25 mlynedd gyda sefydliadau anllywodraethol cenedlaethol a rhyngwladol yng Nghanada, Iwerddon a'r DU.
Rick yw Cyd-Gyfarwyddwr y Ganolfan Cyfiawnder Troseddol a Throseddeg yn Ysgol y Gyfraith. Mae hefyd yn Uwch Gydymaith Ymchwil gydag Arsyllfa Polisi Cyffuriau Byd-eang Prifysgol Abertawe ac yn Gymrawd Gwadd yn y Ganolfan Hawliau Dynol, Prifysgol Essex.
Mae’n gyn Gyfarwyddwr Gweithredol Harm Reduction International (2010-2018) ac Ymddiriedolaeth Diwygio Cosbau Iwerddon (2003-2007), ac am fwy na degawd bu’n cynrychioli cyrff anllywodraethol ar fforymau lefel uchel y Cenhedloedd Unedig yn cynnwys Comisiwn y Cenhedloedd Unedig ar Gyffuriau Narcotig, Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig a Bwrdd Cydgysylltu Rhaglen AIDS y Cenhedloedd Unedig. Mae Rick yn gyn-aelod o Grŵp Cynghori Strategol y Cenhedloedd ar y Defnydd o Gyffuriau ac HIV, y Grŵp Cynghori Technegol i'r Comisiwn Byd-eang ar HIV a'r Gyfraith, a Grŵp Cyfeirio i’r Cenhedloedd Unedig ar HIV a Chwistrellu Cyffuriau.
Mae ganddo MA mewn Cymdeithaseg (York University, Toronto), LLM mewn Cyfraith Hawliau Dynol Rhyngwladol (Canolfan Hawliau Dynol Iwerddon, Prifysgol Cenedlaethol Iwerddon, Galway) a PhD yn y Gyfraith (Prifysgol Middlesex, y DU). Cyhoeddwyd ei lyfr cyntaf, Drug Control and Human Rights in International Law, gan Cambridge University Press yn 2017.