Dr Phatsimo Mabophiwa

Darlithydd mewn Troseddeg, Criminology, Sociology and Social Policy

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 604683
311
Trydydd Llawr
Adeilad Keir Hardie
Campws Singleton

Trosolwg

Mae Phatsi wedi dysgu Troseddeg ar lefel israddedig ers 2016, ac mae'n gymrawd Cyswllt yr Academi Addysg Uwch.

Dechreuodd Phatsi ei hastudiaethau ym Mhrifysgol Abertawe yn 2009, pan gofrestrodd ar radd Seicoleg. Yn ystod y tair blynedd hyn y datblygodd ei hangerdd dros Droseddeg; drwy fodiwl dewisol Cyflwyniad i Droseddeg a'i hysbrydolodd i wneud cais i astudio Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ar lefel Meistr.

Parhaodd Phatsi i ganolbwyntio ar adeiladu ei phrofiad ym maes Troseddeg drwy waith gwirfoddol fel Aelod o Banel Gorchymyn Cyfeirio ar gyfer y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid. Helpodd y profiad hwn i ddatblygu diddordeb brwd Phatsi mewn materion Cyfiawnder Ieuenctid, a dechreuodd weithio tuag at radd Ph.D yn yr Adran Troseddeg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ymchwil Phatsi, sydd wedi’i dylanwadu gan y bobl ifanc y mae wedi gweithio gyda hwy dros y blynyddoedd, yn canolbwyntio ar hawliau a chyfrifoldebau plant a phobl ifanc; gwaith empirig sydd â chyfranogiad plant wrth ei graidd.

Meysydd Arbenigedd

  • Dioddefwyr a Dioddefoleg
  • Sylfeini mewn Ymchwil