Dr Gemma Morgan

Uwch-ddarlithydd
Criminology, Sociology and Social Policy

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Meysydd ymchwil Gemma yw ymataliad/adsefydlu, technoleg ddigidol mewn gwaith sy'n canolbwyntio ar ymataliad, cyfiawnder ieuenctid, methodoleg werthuso a chyd-gynhyrchu. Mae ethos ymchwil sylfaenol Gemma yn gydweithrediadol, gan bwysleisio pwysigrwydd gwaith rhyngddisgyblaethol a llawn effaith. Mae'n gweithio'n agos gyda nifer o sefydliadau cyhoeddus, preifat ac yn y trydydd sector i ddatblygu trosglwyddo gwybodaeth rhwng y byd academaidd ac ymarfer.

Mae gwaith diweddaraf Gemma'n canolbwyntio ar gyd-gynhyrchu a gweithredu ystod o dechnolegau digidol i bobl a sefydliadau yn y system cyfiawnder troseddol i gefnogi ymataliad a chanlyniadau cadarnhaol eraill. Gemma yw prif ddyfeisiwr yr ap 'My Journey' arloesol, a ddatblygwyd ar y cyd â Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru ac Include UK.  Mae ap My Journey wedi'i ategu gan ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth a'i nod yw helpu pobl ar eu taith i ymatal rhag troseddu a galluogi sefydliadau i ddarparu cymorth mwy effeithiol.

Hefyd mae gwaith Gemma'n canolbwyntio ar gefnogi sefydliadau troseddol/cyfiawnder cymdeithasol i wreiddio arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth mewn prosesau darparu gwasanaethau ar y rheng flaen drwy ymchwil werthusol ymatebol. Mae gan Gemma arbenigedd mewn dylunio a chynnal gwerthusiadau o brosesau a chanlyniadau, yn ogystal ag offer gwerthuso arloesol er mwyn i sefydliadau fonitro a gwella darparu gwasanaethau. Mae ymchwil werthuso Gemma'n canolbwyntio ar effaith a newidiadau yn y byd go iawn drwy nodi arferion da a meysydd i'w gwella er mwyn gwella ymarfer ar y rheng flaen a pholisi er mwyn creu canlyniadau cadarnhaol ar gyfer y rhai hynny sydd mewn perygl o droseddu neu aildroseddu.  

Mewn cydnabyddiaeth o waith arloesol Gemma, enillodd wobr Seren y Dyfodol Ymchwil ac Arloesi'r Brifysgol 2022 a chyrhaeddodd y rownd derfynol ar gyfer Arweinwyr Digidol 100 - Arweinydd Digidol Ifanc y Flwyddyn, 2021. Mae hi'n un o gyn-fyfyrwyr Crwsibl Economi Ddigidol y DU 2021 a ariannwyd gan yr EPSRC ac yn aelod cysylltiol o'r Panel Achredu a Chynghori ar Wasanaethau Cywirol (CSAPP). Mae Gemma'n aelod o sawl grŵp ymchwil cenedlaethol/rhyngwladol gan gynnwys CRIMVOL, Hyb Doeth Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru, Gweithgor yr ESC ar Gosbau Cymunedol, CREDOS, ac mae'n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.

Meysydd Arbenigedd

  • Adsefydlu troseddwyr
  • Ymatal
  • Cyfiawnder ieuenctid
  • Troseddu ieuenctid
  • Sgiliau goruchwylio
  • Ymchwil gwerthuso

Uchafbwyntiau Gyrfa

Prif Wobrau
  • Enillydd, Seren y Dyfodol Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Abertawe - Ymchwilydd Gyrfa Gynnar, 2022
  • Cystadleuydd yn y rownd derfynol, Arweinwyr Digidol 100 - Arweinydd Digidol y Flwyddyn, 2021
  • Cyn-fyfyriwr Crwsibl Economi Ddigidol y DU, 2021
  • Wedi’i henwebu ar gyfer Gwobr Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu Prifysgol Abertawe, 2021
  • Gwobr Cyfraniad Nodedig i Gyflogadwyedd Myfyrwyr, Academi Cyflogadwyedd Abertawe, 2016
  • Ail safle, Fforwm Ymchwil Prifysgol Abertawe - Gwobr Ymchwil Gymunedol 2015
  • Enillydd, Gwobr Pen-blwydd Ede and Ravenscroft am Gyfraniad Neilltuol gan Fyfyriwr 2014/15