Golwg o Gampws Singleton a’r bae gyferbyn o’r awyr
Professor Sarah Wydall

Yr Athro Sarah Wydall

Athro Troseddeg, Criminology, Sociology and Social Policy

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae fy niddordebau ymchwil yn canolbwyntio'n bennaf ar niwed rhyweddol, yn enwedig cam-drin domestig yn ddiweddarach mewn bywyd.

Ers 2020, rwyf wedi arwain  15 prosiect ymchwil, gan ymdrin â phobl sy'n cyflawni cam-drin domestig, plant a phobl ifanc, dioddefwyr y credir eu bod yn 'risg uchel' ac yn fwy diweddar y croestoriad rhwng bywyd diweddarach, rhywedd, anabledd a hunaniaeth rywiol. (Gweler yr adran ymchwil am ddolenni).

Rwyf hefyd wedi cyd-gynhyrchu a gwerthuso ymyriad Realiti Rhithwir  Through their eyes fel offeryn hyfforddiant i'r heddlu a darparwyr gwasanaeth eraill. Rwyf yn gweithio ar hyn gyda'm cydweithwyr Dr Helen Miles a Rebecca Zerk o'r Ganolfan Oedran, Rhywedd a Chyfiawnder Cymdeithasol ym Mhrifysgol Aberystwyth (gweler y ddolen isod) 

Rwyf wedi cael cyllid gwerth £2.7M, gan amrywiaeth eang o ffynonellau gan gynnwys y Swyddfa Gartref; Y Weinyddiaeth Gyfiawnder Llywodraeth Cymru; AHRC; OPAN; Comic Relief; UK Portfolio; Big Innovation; a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Rwyf wedi arwain Menter Dewis Choice yng Nghymru ers 2013.  Mae hyn yn fodel a gynhyrchwyd ar y cyd sy'n cynnig cymorth dwys i oroeswyr hŷn o argyfwng i adfer.

Dewis yw'r astudiaeth hydredol fyd-eang gyntaf i ymgorffori 'profiadau byw' dioddefwyr-goroeswyr 60 oed ac yn hŷn.  Mae'r data hyn yn creu adnoddau a gafodd eu hamlygu fel 'arfer da' mewn sesiwn friffio ddiweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar COVID-19 a Thrais ar gyfer Sefydliad Iechyd y Byd, Ewrop. Cyfrannodd tîm Dewis at nifer o ddogfennau ymgynghori ac arweiniad (gweler yr adran ymchwil am ragor o wybodaeth) 

Rwyf hefyd wedi cael fy ngwahodd i fod yn rhan o nifer o adolygiadau o laddiadau domestig, ac rwyf wedi cyfrannu at ddatblygu ymarfer ar y cyd â Standing Together Against Domestic Violence (gweler y dolenni yn yr adran ymchwil)

Meysydd Arbenigedd

  • Cam-drin domestig yn ddiweddarach mewn bywyd
  • Cam-drin domestig a dementia
  • Defnyddio realiti rhithwir i wella'r ymateb i drawma
  • Lladdiadau Domestig (Dynion; Pobl 60 oed ac yn hŷn)
  • Cam-drin domestig a gofal sy'n beryglus

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Trais, Camdriniaeth a Niwed

Trais yn erbyn menywod a merched

Astudio niwed cymdeithasol

Gwyredigaeth a Chymdeithas

Ystyron Cyfiawnder

Carcharu

Sut mae niwed yn cael ei gynrychioli yn y cyfryngau

Lladdiadau Domestig

Gormes Groestoriadol

 

Methodolegau ymchwil ansoddol: Rwyf yn ymchwilydd ansoddol, rwyf yn angerddol am fethodolegau ymchwil a lywir gan ddarganfyddiadau ac mae gennyf ddiddordeb mewn addysgu sylfeini athronyddol a methodolegol ymchwil.  A minnau’n lluniadaethwr cymdeithasol, rwyf yn mabwysiadu ymagwedd berthynolaidd at ffurfiau ddynol a rhai nad ydynt yn ddynol.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau