Pennod 11: Sut gallwn ni brofi torri hawliau dynol?

Yn y bennod hon o Archwilio Problemau Byd-eang, mae'r Athro y Gyfraith  Yvonne McDermott Rees ac ysgolheigion Rhaglen Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton 2020 Charlotte Morgan ac Andrea Stanišić yn trafod  tlodi plant, hawliau dynol amgylcheddol a sut y gellir defnyddio tystiolaeth o'r cyfryngau cymdeithasol at ddibenion atebolrwydd ar gyfer torri hawliau dynol torfol.

Mae ymchwil Yvonne yn canolbwyntio ar y gyfraith droseddol, y gyfraith hawliau dynol a'r gyfraith tystiolaeth. Yn ddiweddar, arweiniodd brosiect mawr a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ar y defnydd o dystiolaeth ffynhonnell agored ar gyfer canfod ffeithiau hawliau dynol. Mae Yvonne wedi cyhoeddi yng nghyfnodolion blaenllaw, gan gynnwys y canlynol: American Journal of International Law, Leiden Journal of International Law, Journal of International Criminal Justice, International Criminal Law Review, a Law, Probability, and Risk.

Archwiliodd ymchwil Charlotte a oedd plant yng Nghymru yn methu arfer eu hawliau oherwydd anfantais cymdeithasol-economaidd a brofwyd ganddynt, a sut mae'r anfantais hon wedi gwaethygu yn sgîl Covid-19. Mae hi'n gweithio fel Intern Polisi a Materion Cyhoeddus yn British Heart Foundation Cymru, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.

Cynhaliodd Andrea ymchwil i hawliau dynol amgylcheddol, gan archwilio datblygiadau a thueddiadau yn yr ymagwedd hawliau dynol at ddiogelu amgylcheddol. Gweithiodd ym melin drafod y Ganolfan dros Ddemocratiaeth a Hawliau Dynol ym Montenegro, a chydweithiodd â ClientEarth a Chymdeithas y Bar Americanaidd ar brosiectau ymchwil.

Listen on Apple Podcasts / Botwm Gwrandewch ar Apple Podcasts

Listen on Spotify / Botwm Gwrandewch ar Spotify