Pennod 10: Batris ar gyfer dyfodol cynaliadwy

Yn y bennod hon yn y gyfres Archwilio Problemau Byd-eang / Exploring Global Problems, bydd yr Athro Serena Margadonna a’n cyflwynydd, Dr Sam Blaxland, yn trafod rôl batris yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd a’r angen am fatris gwell ar gyfer cymdeithas ddi-garbon.

Ysbrydolwyd ei gwaith trwy sylweddoli bod y prif welliannau mewn technoleg fodern bob amser yn cael eu sbarduno gan argaeledd deunyddiau  â nifer o briodweddau sy’n gallu gweithredu ar raddfeydd hyd gwahanol, dan amodau llym megis pwysedd/tymheredd eithafol ac amgylcheddau cyrydol dros ben.

Dros y blynyddoedd, mae’r Athro Margadonna wedi meithrin gwybodaeth ac arbenigedd mewn nifer o feysydd gwyddoniaeth, gan ddechrau o’i chefndir ym maes cemeg sy’n hanfodol ar gyfer dylunio a chynhyrchu deunyddiau newydd, trwy ffiseg mater cyddwysedig a pheirianneg brosesu.

Listen on Apple Podcasts / Botwm Gwrandewch ar Apple Podcasts

Listen on Spotify / Botwm Gwrandewch ar Spotify