Pennod 1: Archwilio Ymgysylltu Gwleidyddol, y Rhyngrwyd a’r Etholiadau

Yn y bennod hon o Archwilio Problemau Byd-eang, bydd yr Athro Cysylltiol mewn Gwleidyddiaeth Dr Matt Wall, yr Athro Cysylltiol yn y Cyfryngau  a Chyfathrebu Dr Richard Thomas, a'r Athro Gwleidyddiaeth Jonathan Bradbury, yn trafod eu gwaith ar ymgysylltu gwleidyddol, y rhyngrwyd a barn y cyhoedd, datganoli, ac a yw adrodd am faterion gwleidyddol yn helpu dinasyddion i wneud dewisiadau gwybodus am y blwch pleidleisio.

Arbenigedd Dr Wall yw croestoriad y rhyngrwyd a gwleidyddiaeth etholiadol, gan gynnwys ymgyrchu ar-lein, dyfodiad gwefannau 'cyngor ar bleidleisio, a gamblo gwleidyddol. Mae hefyd yn ymchwilio i bleidiau gwleidyddol is-genedlaethol, gyda ffocws penodol ar sut maent yn ymateb i'r heriau a geir o ganlyniad i Brexit i setliad datganoli'r DU.

Mae gwaith ymchwil Dr Thomas yn canolbwyntio ar gyfathrebu gwleidyddol, y cyfryngau amgen a'r sylw a roddir i etholiadau. Ef yw awdur “Reporting Elections: Rethinking the Logic of Campaign Coverage”. Mae ei ddiddordebau'n cynnwys i ba raddau y mae dinasyddion yn cael eu gwasanaethu gan y cyfryngau prif ffrwd ac amgen.

Mae ymchwil yr Athro Bradbury'n canolbwyntio ar wleidyddiaeth diriogaethol sut mae'r DU yn cael ei llywodraethu, gan gyfeirio at lywodraeth leol ac wedi'i datganoli. Mae ei ddiddordebau'n cynnwys safon democratiaeth ranbarthol, yn bennaf o ran y DU a Chymru.

lla clwyfau heintiedig wrth weithio i oresgyn y “ffactor ych” sy'n gysylltiedig â'r pwerdai meddygol hen bryf annifyr hyn.

Listen on Apple Podcasts / Botwm Gwrandewch ar Apple Podcasts

 

Listen on Spotify / Botwm Gwrandewch ar Spotify

 

>