Trosolwg
Mae ymchwil Richard yn ymwneud â mesur a cymhwyso'r tueddiadau a'r patrymau yn y ffyrdd y mae economeg, busnes, cyllid, gwleidyddiaeth a gwrthdaro yn cael eu cwmpasu gan allfeydd newyddion sy'n amrywio o deledu a radio i flogio a’r cyfryngau cymdeithasol ar-lein.
Un o'i brif feysydd diddordeb yw cyfathrebu gwleidyddol, y cyfryngau amgen a'r sylw a roddir i etholiadau. Mae'n gyd-awdur “Reporting Elections: Rethinking the Logic of Campaign Coverage” ac mae wedi cyhoeddi llawer o erthyglau mewn cyfnodolion a phenodau mewn llyfrau eraill.
Mae'n gyd-ymchwilydd mewn prosiect ar y cyd rhwng Caerdydd ac Abertawe sy'n edrych ar Newyddion Gwleidyddol Amgen Ar-lein. Ariannwyd y prosiect hwn gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol gyda swm o £517,000 a bydd yn dod i ben yn 2022. Mae'n aelod o grŵp ymchwil Gwleidyddiaeth, Dadansoddi a Llywodraethu Prifysgol Abertawe.
Ef yw cyd-olygydd JournalismKX – fforwm ar-lein lle mae ysgolheigion a newyddiadurwyr yn trafod sut y gallant gydweithio i fynd i'r afael â'r materion allweddol sy'n wynebu'r diwydiant newyddion. Ef hefyd yw golygydd The Swansea Mumbler sy'n arddangos gweithgareddau adran y Cyfryngau a Chyfathrebu ar-lein.
Mae'n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch ac yn arwain proses Uniondeb Academaidd COAH. Mae'n arholwr allanol ym Mhrifysgol Leeds a bu'n aelod allanol o banel adolygu Dysgu ac Addysgu a ddilysodd y cwricwlwm cyfryngau a chyfathrebu ym Mhrifysgol Newcastle yn 2019. Yn 2020, ef oedd yr aelod allanol o'r bwrdd a gymeradwyodd raglen radd newydd ym Mhrifysgol Plymouth Marjon.
Mae wedi cyflwyno ei ymchwil mewn nifer o brifysgolion eraill a chynadleddau rhyngwladol. Roedd yn banelydd yn sôn am "ryddid barn" yn ystod Gŵyl Y Darlun Ehangach y Brifysgol ym mis Mawrth 2019. Fe'i gwahoddwyd hefyd i siarad yng Nghynhadledd Pontio Ynni Byd-eang Clean Energy Wire yn Berlin ym mis Ebrill 2019.
Mae'n gyfrannwr rheolaidd i gylchgrawn misol Wisden Cricket sy'n adlewyrchu ei gariad gydol oes at griced. Mae'n ymddangos yn rheolaidd ar BBC Radio i drafod newyddion, gwleidyddiaeth, etholiadau a chwaraeon.