Pennod 7: Agweddau dynol ar gynaliadwyedd twristiaeth

Mae'r diwydiant twristiaeth wedi wynebu sawl her oherwydd pandemig COVID-19. Gorfodwyd y diwydiant i ateb rhai cwestiynau anodd hefyd; o'r effaith mae twristiaeth wedi'i chael ar gynaliadwyedd, mynediad at gludiant i effaith gormod o dwristiaeth.

Yn y bennod hon o Archwilio Problemau Byd-eang, mae Dr Maggie Miller a'n cyflwynydd, Dr Sam Blaxland, yn trafod agweddau dynol ar gynaliadwyedd twristiaeth a'r rôl rydym ni, twristiaid, yn ei chwarae yn y gymuned fyd-eang.

Maen nhw hefyd yn ystyried dyfodol posib y diwydiant twristiaeth, yn ogystal â gwaith ac ymchwil Maggie yn Nepal, yn enwedig rôl y Sherpaid a'u habsenoldeb o lawer o'r drafodaeth allanol. Os hoffech chi ddysgu rhagor am y pwnc hwn, gallwch wylio rhaglen ddogfen Maggie "Climbing Sherpa: Stories of the Solukhumbu". Maen nhw hefyd yn cyfeirio at y rhaglen ddogfen gan Netflix, Sherpa.

Yn ddiweddaraf, mae ymchwil Maggie wedi canolbwyntio ar fynediad at dwristiaeth antur a cynrychiolaeth yn y maes, yn enwedig dylanwad rhyw ar sut mae pobl yn ymwneud â gweithgareddau twristiaeth antur ac anturiaethau entrepreneuraidd cysylltiedig.

I ddysgu rhagor am astudio twristiaeth, gwyliwch fideo Maggie neu ewch i'r wefan.

Listen on Apple Podcasts / Botwm Gwrandewch ar Apple Podcasts

Listen on Spotify / Botwm Gwrandewch ar Spotify