Trosolwg
Astudiais yn yr Ysgol Hanes ym Mhrifysgol Bryste, gan raddio gyda BA ym 1984 a doethuriaeth ym 1991. Bûm yn gymrawd ymchwil mewn gwleidyddiaeth ym Mryste (1988-89); ac yn ddarlithydd dros dro yn Royal Holloway a Bedford New College, Llundain mewn polisi cymdeithasol a gwyddor gymdeithasol (1989-90); ac ym Mhrifysgol Warwick mewn gwleidyddiaeth (1990-92). Ymunais â Phrifysgol Abertawe ym 1992, ac ar ôl cael dyrchafiad i fod yn uwch ddarlithydd a darllenydd, cefais fy mhenodi i Gadair bersonol mewn Gwleidyddiaeth yn 2012.
Fel ymchwilydd rwyf wedi canolbwyntio ar wleidyddiaeth diriogaethol y ffordd y caiff y DU ei llywodraethu, sy'n ymwneud â llywodraeth ddatganoledig a llywodraeth leol. Mae gen i ddiddordeb mewn dadansoddi gwladweinyddiaeth llywodraethu, yn ogystal â goblygiadau gwleidyddol, polisi a chynrychiolaeth llywodraeth diriogaethol. Mae fy ngwaith diweddar wedi canolbwyntio ar ddadansoddi datganoli ers diwedd y 1990au ac mae'n cynnwys fy llyfr newydd, Constitutional Policy and Territorial Politics in the UK: Union and Devolution, 1997-2007 (BUP, yn y wasg 2021).
Ers 2017 rwyf wedi bod yn Gyfarwyddwr Ymchwil yng Ngholeg y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe. Cyn hynny, roeddwn yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Cymhwysol, 2012-16. Yn ystod y cyfnod hwn, fi hefyd oedd Arweinydd y Brifysgol yng Nghanolfan Hyfforddi Doethurol gydweithredol ESRC Cymru, 2011-16. Rwyf hefyd wedi bod yn Bennaeth yr Adran Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol, 2010-12; Cydgysylltydd Fframwaith Ymchwil Ragorol ar gyfer Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol, 2009-18; ac Is-Ddeon ar gyfer hyfforddiant ymchwil, cynnull myfyrwyr/staff ac ansawdd yn y Gyfadran Ymchwil Ôl-raddedig 2002-06.
Yn fy ngwaith addysgu, rwy'n cynnull modiwlau ar wleidyddiaeth y DU, datganoli cymharol a Senedd Cymru. Rwyf wedi goruchwylio naw myfyriwr doethuriaeth llwyddiannus sydd wedi mynd ymlaen i yrfaoedd mewn llywodraeth, ymchwil ac addysg. Mae gennyf ddiddordeb mewn goruchwylio myfyrwyr ymchwil newydd ym meysydd datganoli cymharol/y DU, gwleidyddiaeth y DU a pholisi cyhoeddus.