ANDREA STANIŠIĆ - YSGOLHAIG HERIAU BYD-EANG

Ysgolhaig Heriau Byd-eang 25 mlwydd oed o Fontenegro yw Andrea Stanišić sy’n angerddol dros gydweithredu rhyngwladol a hawliau dynol. Ar wahân i’w mamiaith, sef Serbo-Croateg, mae hi’n rhugl yn y Saesneg, mae ganddi hi grap da ar yr Almaeneg yn ogystal â sgiliau cyfathrebu sylfaenol yn y Ffrangeg, y Slofeneg a’r Rwsieg.

Wedi’i symbylu gan ei brwdfrydedd dros amlddiwylliannedd ac addysg ryngwladol, mae hi wedi cymryd rhan mewn nifer o raglenni hyfforddi ieuenctid rhyngwladol dramor, gan fynychu tair rhaglen gyfnewid i fyfyrwyr. Yn sgîl y profiadau a’r cyfnodau hyn o wirfoddoli, mae hi wedi cael y cyfle i gwrdd â phobl o ledled y byd a gweithio gyda nhw, ac afraid dweud bod y rhain wedi’i hysbrydoli i goleddu gwerthoedd ymroddiad ac amrywiaeth yn ogystal â bod yn benderfynol ac yn eangfrydig.

CEFNDIR ADDYSGOL A GYRFAOL

Mae gan Andrea raddau Baglor ac Arbenigol mewn Cysylltiadau Rhyngwladol o Brifysgol Montenegro yn ogystal â Gradd Meistr mewn Cysylltiadau Rhyngwladol o Brifysgol Ljubljana, y cyfan ohonyn nhw â gradd gyfartalog “A” ardderchog. Yn 2017, enillodd Wobr Rhagoriaeth Academaidd gan Brifysgol Montenegro. Yn ystod ei hastudiaethau baglor, astudiodd ym Mhrifysgol Ljubljana pan gafodd ysgoloriaeth gan Raglenni Symudedd ac Addysg a Hyfforddiant Ewropeaidd Gweriniaeth Slofenia yn 2014 ac ym Mhrifysgol Salzburg ym 2015 fel un o ysgolheigion Erasmus Mundus. Fel rhan o’i hastudiaethau meistr, enillodd ysgoloriaeth Erasmus+ yn 2018 i ymchwilio ym Mhrifysgol Fienna.

Yn 2017, bu’n gweithio fel Cynorthwy-ydd Prosiectau mewn melin drafod, sef Y Ganolfan Democratiaeth a Hawliau Dynol, am 10 mis. Yn ystod ei gwaith, bu’n gweithio ar nifer o brosiectau gan gynorthwyo i ysgrifennu prosiectau, rhoi gweithgareddau prosiect ar waith, trefnu seminarau a chynadleddau, paratoi adroddiadau misol, darparu cymorth gweinyddol yn ogystal â phrawf-ddarllen a golygu astudiaethau penodol. Ar wahân i hynny, bu’n cymryd rhan mewn nifer o seminarau ar ran y sefydliad ac yn gweithio ar aseiniadau ymchwil ar nifer o faterion gan gynnwys rheolaeth y gyfraith, hawliau dynol, cynhwysiant cymdeithasol, integreiddio Ewro-Atlantig, diogelwch ac amddiffyn.

MEYSYDD ARBENIGEDD

Fel rhan o raglen Heriau Byd-eang Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton Prifysgol Abertawe, mae gan Andrea leoliad ymchwil gyda ClientEarth, sef elusen sy’n gweithio ym maes cyfraith amgylcheddol. Mae hi’n gweithio ar hawliau dynol amgylcheddol, gan ganolbwyntio ar yr hawl i aer glân/iach ar ei phen ei hun neu fel rhan o’r hawl i amgylchedd iach. Yn fwy penodol, mae’n gwneud ymchwil ar wledydd gorllewinol y Balcan a’r DU o safbwynt cyfraith genedlaethol gymharol. 

Graddiodd Andrea ym Mhrifysgol Ljubljana ym mis Ionawr 2020 gyda’i thraethawd ymchwil meistr “Application of the universal norms at the regional level: a comparative study of the universal and European Union regimes for refugee protection”. Ysgrifennwyd y traethawd ymchwil yng ngoleuni’r pryderon cynyddol ynghylch y duedd yng nghyfundrefn diogelu ffoaduriaid yr UE i gyfyngu’n gynyddol. Mae’n rhoi dadansoddiad cymharol o normau ac elfennau eraill cyfundrefnau diogelu ffoaduriaid cyffredinol a rhai’r UE, gan gyfeirio’n benodol at nifer o elfennau sy’n cyfyngu ar raddau ac ansawdd diogelu ffoaduriaid yn yr UE, gan beryglu felly’r normau sylfaenol.

Ym Mhrifysgol Montenegro, graddiodd ym mis Mehefin 2017 gyda’i thraethawd ymchwil arbenigol "Foreign relations between the European Union and the Association of Southeast Asian Nations", sy’n canolbwyntio ar Bolisi Tramor a Diogelwch Cyffredin Ewrop yng nghyd-destun cysylltiadau UE-ASEAN.

UCHELGEISIAU A GOBEITHION AR GYFER Y DYFODOL

"Ar ôl imi orffen y rhaglen Heriau Byd-eang, fy mwriad yw gweithio ar raglenni a phrosiectau sy’n ymroddedig i greu dyfodol gwell ym maes diogelu amgylcheddol, ymfudo neu feysydd eraill o bryder byd-eang. Rwy o’r farn bod yr atebion i broblemau ar raddfa fyd-eang yn rhan o fecanweithiau cydweithredu rhyngddisgyblaethol a rhyngsectoraidd ar y lefel leol, genedlaethol, ranbarthol, ryngwladol a byd-eang, ac yna rhwng y lefelau hyn, yn ogystal â’r ymrwymiad cadarn dros arbenigedd a thystiolaeth. 

Felly bydd fy ngwaith yn y dyfodol yn ymroi i waith mewn sefydliadau rhyngwladol neu ranbarthol, cyrff anllywodraethol rhyngwladol neu’r sector preifat yng nghyd-destun eu cenhadaeth sy’n gysylltiedig â hawliau dynol. Drwy fy ngwaith mewn sefydliad rhyngwladol neu fusnes neu sefydliad â dylanwad byd-eang, hoffwn i ddysgu am y ffyrdd arloesol y mae’r gyfraith a pholisïau’n cael eu defnyddio’n ymarferol i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol byd-eang. Byddai hynny’n gyfle delfrydol imi gymhwyso’r hyn rwy wedi’i ddysgu yn y rhaglen Heriau Byd-eang, ac ar yr un pryd gyfrannu at ymdrechion rhyngwladol i fynd i’r afael â phroblemau byd-eang brys.”

GWAITH A PHROSIECTAU ANDREA Y MAE WEDI CYDWEITHREDU Â NHW A CHYMRYD RHAN YNDDYNT

Promotion and Protection of Human Rights

of Roma, Egyptian and other vulnerable groups

Promotion and Protection of Human Rights

Through Training and Education to Social Inclusion

Through Training and Education to Social Inclusion

Child Begging in Montenegro – Review of Legislation and Practice

with recommendations to support the fight against economic exploitation of child

Child Begging in Montenegro – Review of Legislation and Practice

Rhaglen Amddiffynwyr Cyfiawnder Cymdeithas y Bar UDA

Canolbwyntio ar ymgyfreitha strategol yn erbyn cyfranogiad y cyhoedd

Rhaglen Amddiffynwyr Cyfiawnder Cymdeithas y Bar UDA