Hillary Rodham Clinton

Hillary Rodham Clinton a Phrifysgol Abertawe

Ym mis Hydref 2017, roedd Prifysgol Abertawe’n falch o gyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd, i gyn-Ysgrifennydd Gwladol UDA, Hillary Rodham Clinton, mewn cydnabyddiaeth o’i gyrfa wleidyddol, ei hymrwymiad i hawliau dynol a’i chysylltiadau teuluol ag Abertawe. Yn ystod y seremoni, rhoddodd yr Ysgrifennydd Clinton ddarlith bwysig ar hawliau plant a datgelodd blac i ddathlu enwi Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton.