CHARLOTTE MORGAN - YSGOLHAIG HERIAU BYD-EANG

Mae Charlotte Morgan yn dair ar hugain oed ac yn byw yn Aberdâr. Mae hi’n mwynhau darllen, teithio a bydd hi’n ceisio neilltuo cymaint o amser ag sy’n bosibl i wirfoddoli. Ar hyn o bryd mae’n gwirfoddoli gyda banc bwyd Ymddiriedolaeth Trussell yng Nglyn-nedd.

Dechreuodd y rhaglen Heriau Byd-eang ym mis Ionawr ac mae o’r farn ei fod yn gwrs gwirioneddol unigryw. Nid oes ganddi hi gefndir academaidd yn y Gyfraith gan iddi hi astudio Hanes ar y lefel israddedig, ond her newydd yw hon ac mae hi’n ei mwynhau’n fawr iawn. Yn benodol, mae wedi dwlu ar weithio gyda’r ysgolheigion eraill! Maen nhw wedi dod yn ffrindiau agos ac maen nhw wedi’i hysbrydoli’n ddirfawr gyda’u straeon.

CEFNDIR ADDYSGOL A GYRFAOL

Graddiodd Charlotte o Brifysgol Caerdydd gyda Gradd BA Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Hanes. Roedd wedi mwynhau’r elfen ymchwil yn ei gradd, yn enwedig yn ei thraethawd estynedig. Roedd ei thraethawd estynedig yn canolbwyntio ar y frwydr i gael hawliau i fenywod ym Mhrydain yn ystod y cyfnod Fictoraidd, sef pwnc mae hi’n angerddol iawn yn ei gylch. Enillodd Wobr Ursula Henriques pan raddiodd. Drwy gydol ei gradd, gweithiodd yn rhan-amser mewn bwyty ac aeth yn Rheolwraig Gynorthwyol am flwyddyn wedi iddi hi raddio.

Yna bu’n wirfoddolwr gyda Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA), sef sefydliad sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth o heriau byd-eang megis cynaliadwyedd a hawliau dynol. Roedd Charlotte yn dwlu ar ei phrofiad o wirfoddoli yn WCIA ac yn ystod y cyfnod hwn dechreuodd ymddiddori ym maes llunio polisi ac eirioli dros hawliau dynol. Roedd rhan o’i rôl fel gwirfoddolwraig yn golygu mynychu cyfarfodydd y Grŵp Rhanddeiliaid Hawliau Dynol lle y cafwyd cyfraniadau arbennig o graff. Roedd wedi cymryd rhan hefyd yn y Fenter Dysgu Byd-eang, a oedd yn cynnwys cymryd rhan wrth drefnu digwyddiadau ysgol yng Nghymru. Un o’r rhain oedd Cynhadledd Fodel y Cenhedloedd Unedig, a chafodd ei hysbrydoli wrth weld pa mor angerddol y mae disgyblion pob ysgol ynghylch datrys materion byd-eang.

MEYSYDD ARBENIGEDD

Ers iddi ddechrau’r rhaglen, mae Charlotte wedi bod yn ymchwilio i’r gyfraith a pholisïau mewn perthynas â thlodi plant yng Nghymru. Mae hyn yn rhan o’i lleoliad gydag Achub y Plant Cymru ac mae hi’n mwynhau’r profiad yn arw. Mae hyn yn golygu ymchwilio i bolisïau a deddfwriaeth sy’n bodoli eisoes, megis Mesur Hawliau Plant (Cymru) 2011 a Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a phenderfynu sut y gellir ieuo cyfraith a pholisïau er mwyn lliniaru effeithiau tlodi plant.

Mae hi wedi bod yn canolbwyntio ar y ffordd y gall tlodi yn ystod plentyndod cynnar gael effaith niweidiol ar ddatblygiad plentyn yn y dyfodol. Mae gwaith Achub y Plant wedi dangos pa mor bwysig yw mynediad i addysg o safon, safonau byw digonol a chyfleoedd cyfartal i bob plentyn. Yn anffodus, mae tlodi yn rhoi’r plant hyn o dan anfantais, ac mae’n bwnc hynod o gyffredin yn y Gymru sydd ohoni. Gan fod gan Gymru lywodraeth ddatganoledig, mae ei maes ymchwil hefyd yn cynnwys sut y bydd y llywodraeth genedlaethol yn cyfathrebu â Llywodraeth y DU yn ehangach. Mae hyn yn helpu i asesu galluoedd a chyfyngiadau Llywodraeth Cymru wrth iddi hi dargedu tlodi plant.

UCHELGEISIAU A GOBEITHION AR GYFER Y DYFODOL

"Fy uchelgais ar gyfer y dyfodol yw gweithio i sefydliad elusennol yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar faterion byd-eang fel y galla i helpu i greu newid fel rhan o dîm. Yn y gorffennol, rwy wedi gwirfoddoli ar gyfer sefydliadau elusennol sy’n canolbwyntio ar hawliau dynol ond ers imi ddechrau’r rhaglen, mae fy ngwybodaeth a’m profiad o’r gyfraith a pholisïau wedi ehangu.

Mae cael y cyfle i wrando ar lunwyr polisi sy’n trafod sut i gael effaith drwy bolisïau wedi bod yn ffordd arbennig imi gael cipolwg ar yr hyn y gellid ei gyflawni yn y dyfodol, yn ogystal â bod yn hynod o gymhellgar. Bu gwrando ar yr Ysgrifennydd Clinton yn siarad am ei phrofiadau ei hun o weithio fel gwleidydd a diplomat yn un o’r uchafbwyntiau penodol hyd yn hyn ac roedd yn arbennig o ysbrydoledig o ran yr ymdrechion i greu newid.”   

GWAITH A PHROSIECTAU CHARLOTTE Y MAE WEDI CYDWEITHREDU Â NHW A CHYMRYD RHAN YNDDYNT