Defnyddio Arloesedd i Feithrin Gwydnwch Cymunedol i Gasineb
Platfform digidol arloesol gan Brifysgol Abertawe wrthi'n helpu awdurdodau lleol i nodi, monitro ac ymateb i ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig â chasineb.
Bu graffiti casineb yn her i awdurdodau lleol a thimau diogelwch cymunedol ledled y DU ers amser maith. Cydnabyddir graffiti casineb fel digwyddiad casineb, ac mewn rhai achosion, dyma'n union beth ydyw. Fodd bynnag, yn aml iawn nid yw'n cael sylw digonol gan nad yw pobl yn rhoi gwybod amdano. Mae hyn yn creu bylchau sylweddol o ran deall lleoliad digwyddiadau, y cysylltiad rhyngddynt a'r hyn y gall y gweithredoedd hyn ei ddatgelu am densiynau yn y gymuned ehangach.
Er mwyn mynd i'r afael â'r her hon, mae'r Athro Lella Nouri a'i thîm wedi datblygu StreetSnap, platfform digidol arloesol sy'n trawsnewid y ffyrdd y caiff graffiti casineb ac arwyddion gweledol eraill o anoddefgarwch eu cofnodi, eu monitro a'u dadansoddi.
Gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y troseddau casineb y rhoddwyd gwybod amdanynt yng Nghymru a Lloegr dros amser; gan gynyddu o 42,236 o droseddau y rhoddwyd gwybod amdanynt yn 2012/13 i 115,990 yn 2024/25.
Mynd i'r afael â bwlch hirsefydlog
Mae angen i lawer o awdurdodau lleol gael gwared â graffiti casineb o fewn amserlen fer. Fodd bynnag, cyn StreetSnap, nid oedd system benodol ar gael a allai gofnodi patrymau, dadansoddi tueddiadau nac asesu effaith gymdeithasol ehangach y digwyddiadau hyn. O ganlyniad, yn aml mae tystiolaeth bwysig ynghylch tensiynau cymunedol a gweithgarwch eithafol newydd wedi mynd ar goll.
Gan gydnabod y bwlch hwn, bu'r Athro Nouri yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Llywodraeth Cymru, gan ddefnyddio cyllid Partneriaeth SMART, i ddatblygu ateb ymarferol sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Troi Adroddiadau yn Gamau Gweithredu
Mae StreetSnap yn galluogi swyddogion cynghorau, swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, gweithwyr ieuenctid, swyddogion tai, staff addysg a phartneriaid eraill i dynnu lluniau o graffiti casineb a'u lanlwytho ar unwaith, ar ffurf adroddiadau a chanddynt geotagiau, i system ganolog.
Mae'r platfform yn cefnogi cyfathrebu cyflym rhwng yr asiantaethau hynny sy'n gyfrifol am gael gwared â graffiti, gorfodi'r gyfraith a darparu cymorth cymunedol, gan sicrhau y rhoddir gwybod am ddigwyddiadau ac y cymerir camau gweithredu effeithlon yn eu cylch.
O ddata i ddeallusrwydd
Un o brif gryfderau StreetSnap yw ei alluoedd dadansoddol. Gall defnyddwyr gategoreiddio digwyddiadau'n unol â themâu penodol, sy'n cynnwys hiliaeth, homoffobia, eithafiaeth a mathau eraill o gasineb.
Wedyn gellir defnyddio'r wybodaeth hon i nodi mannau problemus, monitro tueddiadau a chyfeirio ymyriadau penodol. Gall y system hefyd dynnu sylw at gynnwys eithafol neu sy'n ymwneud â therfysgaeth, gan alluogi’r asiantaethau perthnasol, gan gynnwys swyddogion gwrth-derfysgaeth yr heddlu, i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol.
“Caiff yr holl ddata ei gipio ac wedyn gellir ei ddefnyddio at ddibenion cydlyniant cymunedol, er mwyn meithrin dealltwriaeth well o densiynau cymunedol, a chael gwared â chynnwys casineb o'n strydoedd.”
Dysgu gan y cynllun peilot
Cafodd y prosiect ei roi ar waith ym Mhen-y-bont ar Ogwr i ddechrau, lle bu'r Athro Nouri a'i thîm yn gweithio'n agos gydag ymarferwyr cydlyniant cymunedol a diogelwch. Ochr yn ochr â defnyddio’r dechnoleg, bu'r tîm hefyd yn rhoi hyfforddiant yn seiliedig ar dystiolaeth i gynrychiolwyr, rheolwyr a staff rheng flaen a gafodd eu hethol i gymryd rhan.
Datgelodd y cynllun peilot fwlch gwybodaeth mawr ynghylch pwysigrwydd delweddau casineb a'u cysylltiad ag agendâu cydlyniant cymunedol ehangach. Dangosodd y canfyddiadau hyn fod angen mabwysiadu ymagwedd addysgol ehangach yn ogystal ag ateb technolegol i fynd i'r afael â'r broblem hon. Ers hynny, bu modd i'r prosiect roi'r ymagwedd hon ar waith, ac mae'r ap a'r pecyn hyfforddiant pwrpasol bellach ar gael i'r holl awdurdodau lleol ledled y DU.
Adeiladu Cymunedau Cryfach
Gwelir buddion StreetSnap ymhell y tu hwnt i gael gwared â graffiti yn gyflym. Drwy greu data dibynadwy, mae'r platfform yn helpu sefydliadau i ddeall yr hyn sy'n ysgogi negeseuon casineb, a datblygu ymyriadau ataliol.
Mae gwybodaeth a gasglwyd yn ystod y cynllun peilot, eisoes wedi cefnogi sgyrsiau â phobl ifanc ynglŷn ag ystyr symbolau casineb a'r canlyniadau cysylltiedig, gan greu cyfleoedd ar gyfer addysg a chodi ymwybyddiaeth. Ar ben gwaredu ar gasineb gweledol o fannau cyhoeddus, y nod yn y tymor hwy yw mynd i'r afael â'r achosion sylfaenol ac atgyfnerthu cymunedau, er mwyn atal rhagor o ddigwyddiadau yn y dyfodol.
Ymchwil sy'n cael effaith yn y byd go iawn
Mae StreetSnap yn dangos sut y gellir troi ymchwil academaidd yn atebion ymarferol, gan gyflawni effaith gymdeithasol fesuradwy sy'n amlwg ledled y wlad. Fel yr offeryn cyntaf o'i fath, mae'n cynnig ffordd arloesol i awdurdodau lleol fynd i'r afael â chasineb, gwella dulliau casglu gwybodaeth a helpu i greu cymunedau mwy diogel.
Mae ap StreetSnap a'r pecyn hyfforddiant bellach ar gael i holl Awdurdodau Lleol y DU. Am ragor o wybodaeth am ddefnyddio ap StreetSnap a'r pecyn hyfforddiant, e-bostiwch y tîm yn:streetsnap@legaltech.wales