Wrth i'r DU wynebu cyfnod newydd o fygythiad cenedlaethol, mae sicrwydd, diogelwch a gwydnwch ein cymunedau yn her sy'n dod i'r amlwg. Drwy gydweithio â phartneriaid ar draws y byd academaidd, diwydiant a'r llywodraeth, mae Prifysgol Abertawe'n datblygu'r talent, y technolegau a'r atebion sydd eu hangen i gefnogi diogelwch, gwydnwch a ffyniant y DU yn y dyfodol.
Mae ein hymchwil yn y maes hwn yn adlewyrchu lled yr arbenigedd ar draws Prifysgol Abertawe, gan gwmpasu pedair thema allweddol:
- Deunyddiau, Gweithgynhyrchu a Pheirianneg Uwch
- Perfformiad Dynol, Iechyd a Gwydnwch
- Seiberddiogelwch a Gwydnwch Digidol
- Cyfathrebu, Cysylltedd a Llywio
Mae llawer o'r gwaith hwn yn adeiladu ar ymchwil sydd eisoes yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Abertawe ac mae dau bwrpas ganddo: gwella gwybodaeth a thechnolegau y gellir eu rhoi ar waith mewn amgylcheddau sifilaidd, diwydiannol a'r sector cyhoeddus; a chyfrannu at alluoedd diogelwch ac amddiffyn cenedlaethol hefyd.