Wrth wraidd ein cryfder ymchwil yw rhwydwaith o fentrau rhyngddisgyblaethol, a Chanolfannau Rhagoriaeth sy’n galluogi ein hymchwilwyr blaenllaw i weithio gyda chi i ymchwilio i gysyniadau newydd ac arloesol.

O brosiectau tymor byr i gydweithio ar ymchwil yn y tymor hwy, gallwch helpu i ddatblygu atebion creadigol i heriau sefydliadol.

Drwy gydweithrediadau ymchwil gyda Phrifysgol Abertawe, gall eich sefydliad:

  • Gyflogi ymgynghorwyr ymchwil blaenllaw
  • Cydweithio ar brosiectau ymchwil
  • Ysgogi effaith yn eich sector

I ddysgu mwy am sut gallwn helpu'ch sefydliad, cysylltwch â ni