Plant yn gwenu yn rhedeg ar draws glaswellt yn erlid swigod

Mae cydweithrediad ymchwil sy'n archwilio sut gellir gwreiddio hawliau plant ifanc mewn ymarfer addysgu wedi sicrhau hwb cyllid mawr.

Mae'r tîm, sy'n cynnwys arbenigwyr o Brifysgol Abertawe, wedi llwyddo i sicrhau cyllid gwerth ychydig yn llai na £700,000 gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), sy'n rhan o UKRI (Ymchwil ac Arloesi yn y DU), drwy Raglen Ymchwil Addysg yr ESRC.

Mae'r prosiect tair blynedd yn archwilio mater heriol rhoi bwriad polisi ar waith mewn ymarfer addysg, gan ganolbwyntio ar hawliau cyfranogiad plant ifanc a sut maent yn cael eu harfer mewn ystafelloedd dosbarth.  

Mae Dr Jacky Tyrie, uwch-ddarlithydd mewn addysg yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, a'r Athro Jane Williams, o Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr o Brifysgol Gorllewin Lloegr (UWE) Bryste, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, a'r ymgynghorydd addysgegol a'r artist-addysgwr Debi Keyte-Hartland.

Meddai Dr Tyrie a'r Athro Williams: “Mae'n fraint ac yn destun cyffro ein bod ni wedi cael y cyfle hwn drwy'r ESRC i archwilio, ar y cyd â phlant ac athrawon, sut gellir gwreiddio cyfranogiad plant ifanc rhwng pump a saith oed mewn ymarferion dyddiol yn ein hysgolion cynradd yng Nghymru.

“Rydyn ni'n falch o adeiladu ar gryfderau ymchwil trawsddisgyblaethol Abertawe i hawliau plant, gan gynnwys gwaith y Rhwydwaith Hawliau Plant yn y Blynyddoedd Cynnar, yr Arsyllfa ar Hawliau Dynol PlantCanolfan Gyfreithiol y Plant CymruLleisiau Bach Little Voices.”

Mae'r prosiect yn dymuno gweld hawliau plant wrth wraidd deddfwriaeth a darpariaeth yng Nghymru a sicrhau, yng nghyd-destun ysgolion, fod ymrwymiad i'r pedwar diben sy'n diogelu hawliau plant yn ategu'r Cwricwlwm i Gymru. 

Yn ôl yr ymchwilwyr, mae arferion addysgegol – sut mae addysgwyr yn hwyluso ac yn hyrwyddo dysgu gydol oes plant – i gefnogi'r gwaith o arfer hawliau cyfranogiad plant ifanc yn anghyson. Ar adegau, maent yn adlewyrchu ymagweddau ‘cyfyngedig’ at arfer hawliau plant sy'n galluogi plant penodol yn unig i wneud dewisiadau penodol, ar adegau penodol, mewn mannau penodol, ac am resymau penodol. 

Gan ganolbwyntio ar blant ifanc, mae'r prosiect hwn yn ystyried sut gall arferion addysgegol wreiddio hawliau cyfranogiad i bob plentyn a rhoi sylw, yn rheolaidd, i lais a galluogedd plant. 

Mae'n mabwysiadu ymagwedd ymchwil gyfranogol arloesol, gan archwilio'r broblem ymchwil gyda phlant a'u hathrawon drwy ddulliau creadigol, ac yna gydag athrawon dan hyfforddiant a'u haddysgwyr mewn partneriaethau achrededig â phrifysgolion ac ysgolion yng Nghymru.

Ychwanegodd Dr Sarah Chicken, y Prif Ymchwilydd, o UWE: “Mae'n destun cyffro i ni fel tîm ein bod yn cael y cyfle i weithio ar y cyd â phlant ac addysgwyr ledled Cymru ac i ddatblygu rhwydweithiau cynaliadwy a fydd yn para ar ôl cyfnod yr astudiaeth. Rydyn ni'n credu y gall ein prosiect effeithio ar y man cyswllt rhwng damcaniaeth, ymarfer a pholisi.”

Meddai'r Athro Gemma Moss, Cyfarwyddwr y Rhaglen Ymchwil Addysg: “Dyma gyfle cyffrous i'r gymuned ymchwil addysg weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid eraill a dod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â heriau hirhoedlog i addysg mewn ysgolion.”

Meddai'r Athro Alison Park, Cadeirydd Gweithredol Interim y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol: “Drwy'r Rhaglen Ymchwil Addysg, mae'r ESRC yn ariannu ymchwil newydd bwysig a fydd yn meithrin dealltwriaeth ac yn helpu i fynd i'r afael â heriau parhaus i systemau addysg orfodol y DU, gan gynnwys sut i ddenu, addysgu a chadw athrawon ardderchog, a sut i fabwysiadu technolegau newydd a manteisio i'r eithaf arnyn nhw.

“Bydd y rhaglen yn cefnogi athrawon a phlant drwy ymdrin â materion megis gwytnwch, cyfranogiad, recriwtio, hyfforddiant a chadw athrawon.”

 

 

Rhannu'r stori