Mae Prifysgol Abertawe'n cydlynu ac yn hwyluso’r rhwydwaith hwn ar y cyd â Phlant yng Nghymru.

Mae’r Rhwydwaith Hawliau Plant yn y Blynyddoedd Cynnar (CREYN) yn rhwydwaith o academyddion, ymarferwyr, llunwyr polisi a sefydliadau'r trydydd sector, sydd wedi'i gydlynu gan Dr Jacky Tyrie yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Mae'r rhwydwaith yn dod â'r rhai â diddordeb mewn hawliau plant ifanc ynghyd i rannu gwybodaeth a gweithio gyda'i gilydd, er mwyn: gwella hygyrchedd ymchwil, datblygu fforwm ar gyfer gweithgareddau ymchwil yn y dyfodol, cyflwyno eiriolaeth gryfach ar gyfer hawliau plant ifanc, cyfnewid gwybodaeth rhwng gweithwyr proffesiynol ac i gefnogi datblygu sylfaen dystiolaeth i wella dealltwriaeth o hawliau plant ifanc.

Cynhelir cyfarfodydd y rhwydwaith bob deufis yn ne Cymru, i gael mwy o wybodaeth e-bostiwch Dr Jacky Tyrie.

Yn ystod 2021 cynhaliwyd pum cyfarfod o’r rhwydwaith lle rhannwyd/trafodwyd amrywiaeth o bynciau:

  • Effaith COVID ar ECEC; rhannwyd amrywiaeth o wybodaeth ar ffurf graffeg a oedd yn nodi'r canfyddiadau allweddol https://www.childreninwales.org.uk/news/ECECKeyfindings/
  • Hawliau'r Blynyddoedd Cynnar mewn Ymarfer; rhoddodd yr aelodau sylwadau ac adborth ar boster un dudalen. Mae bellach ar gael i leoliadau'r Blynyddoedd Cynnar ei ddefnyddio: Childrens_rights_poster_-_English.pdf (childreninwales.org.uk)
  • Fframwaith ansawdd yr ECEC a'r cwricwlwm nad yw'n cael ei gynnal. Mae'r cwricwlwm nad yw'n cael ei gynnal bellach wedi cael ei gyhoeddi ac mae ffocws cryf ar hawliau wedi’i ymgorffori drwy gydol y cwricwlwm. Enabling Learning guidance ac A curriculum for funded non-maintained nursery settings
  • Hawl i Chwarae ac Effaith COVID ar chwarae; Mae Chwarae Cymru wedi rhannu ymchwil a chanfyddiadau diddorol iawn.
  • Hawliau Plant wrth Gymryd Rhan mewn Iechyd; roedd hwn yn bwnc newydd ar gyfer nifer ohonom a rhoddwyd cipolwg da ar ddatblygiad galluoedd a hawliau plant mewn ymchwil iechyd plant.

CODI YMWYBYDDIAETH O HAWLIAU PLANT

Mae'r strategaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi'r cynllun am sut bydd Llywodraeth Cymru'n codi ymwybyddiaeth o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn Nghymru tan ddiwedd 2023.

Mae Rhwydwaith CREYN yn cael sylw penodol yn yr adran Blynyddoedd Cynnar:

...cefnogi rhwydwaith blynyddoedd cynnar hawliau plant. Byddwn yn cefnogi'r rhwydwaith hwn i ddod â rhanddeiliaid allweddol ynghyd i rannu ymarfer da o ran hawliau plant.

Rydym yn awyddus i adeiladu ar hyn a datblygu cysylltiadau cryfach â Llywodraeth Cymru a chreu rôl fwy gweithredol i CREYN. https://gov.wales/sites/default/files/publications/2021-11/raising-awareness-of-childrens-rights.pdf