Cau merch ifanc drwy ddefnyddio ffôn clyfar

Nid yw safleoedd ar y cyfryngau cymdeithasol yn gwneud digon i fynd i’r afael â’r broses o wthio cynnwys am hunan-niwed ar eu defnyddwyr, meddai’r Samariaid.

Daw’r rhybudd wrth i ymchwil newydd gan yr elusen a Phrifysgol Abertawe ddarganfod bod cynnwys am hunan-niwed yn cael ei argymell i 83% o ddefnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol ar eu porthiannau wedi’u personoli, fel tudalennau ‘explore’ Instagram a ‘for you’ TikTok, heb iddynt chwilio amdano.

Yn frawychus, dywedodd 76% ohonynt eu bod wedi niweidio’u hunain yn fwy difrifol ar ôl gwylio cynnwys am hunan-niwed ar y cyfryngau cymdeithasol. Er ei bod yn hanfodol gwneud y rhyngrwyd yn lle mwy diogel i bobl o bob oedran, nododd yr ymchwil bod mwy na thri chwarter o’r rhai a gymerodd ran ynddi wedi gweld cynnwys am hunan-niwed ar lein am y tro cyntaf pan oeddent yn 14 oed neu’n iau.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol y Samariaid, Julie Bentley: “Ni fyddem byth yn caniatáu i bobl wthio deunydd o’r math hwn trwy’r twll llythyron felly pam dylem ni ei dderbyn pan fydd yn digwydd ar lein. Nid yw safleoedd y cyfryngau cymdeithasol yn gwneud digon i warchod pobl rhag gweld cynnwys sy’n amlwg yn niweidiol, ac mae angen iddynt ei gymryd yn fwy difrifol. 

“Nid yw pobl yn rheoli beth yr hoffent ei weld oherwydd nad yw’r safleoedd yn gwneud  newidiadau i atal y cynnwys hwn rhag cael ei wthio arnynt, ac mae hynny’n beryglus. Mae angen i’r safleoedd gynnwys mwy o reolaethau, ynghyd â gwella’r dulliau cyfeirio a’r cyfyngiadau oedran.”

Mae’r ymchwil yn rhan o raglen Rhagoriaeth Ar-lein y Samariaid, sydd â’r nod o roi canllawiau’r diwydiant i’r platfformau, a deall yn well yr effaith mae cynnwys am hunan-niwed a hunanladdiad yn ei chael ar bobl sy’n defnyddio gofodau ar-lein. Cymerodd bron 5,300 o bobl ran yn yr arolwg, ac mae gan 5,000 ohonynt brofiad o hunan-niwed a hunanladdiad.

Ers 2019, mae rhai safleoedd wedi newid eu polisïau ar hunan-niwed a hunanladdiad, gan gyflwyno pylu delweddau, cyfyngu ar bostio, cyfeirio a negeseuon am geisio cymorth. Er y gwnaethpwydd gwelliannau, mae ffordd bell i fynd o hyd.

Dywedodd Julie: “Rhaid i’r Bil Diogelwch Ar-lein ddod yn ddeddf gwlad cyn gynted â phosibl er mwyn lleihau mynediad i gynnwys niweidiol ar draws yr holl safleoedd waeth beth fo’u maint, ac yn hollbwysig, sicrhau yr eir i’r afael â hyn i blant ac i oedolion. Rydym ni’n aros yn bryderus i’r Bil ddychwelyd i Dŷ’r Cyffredin ar ôl llawer o oedi, ond does dim byd yn rhwystro’r platfformau rhag gwneud y newidiadau nawr.

“Mae’r rhyngrwyd yn symud yn gyflymach o lawer nag unrhyw ddeddfwriaeth felly ni ddylai platfformau aros i hyn ddod yn ddeddf cyn gwneud newidiadau hanfodol a allai achub bywydau."

Meddai’r  Athro Ann John, cyd-arweinydd yr ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe: "Er na all ein hastudiaeth gynrychioli profiad yr holl boblogaeth o'r cynnwys hwn gan mai dim ond y rhai hynny â diddordeb fyddai wedi ymateb i'n holl geisiadau, mae llawer o'r themâu'n pwyntio'n glir at ffyrdd y gall platfformau cyfryngau cymdeithasol wella. 

"Mae pobl eisiau cael mwy o reolaeth dros y cynnwys y maent yn ei weld, ffyrdd o sicrhau bod plant yn bodloni'r gofynion oedran a nodweddion a pholisïau diogelwch wedi'u cynhyrchu ar y cyd. Ymddengys fod modd cyflawni hyn i gyd." 

Mae ymchwil wedi dangos y gall y rhyngrwyd fod yn ffynhonnell amhrisiadwy o gymorth, gan letya adnoddau cynorthwyol a ffyrdd i bobl gysylltu ag eraill sy’n rhannu’r un profiadau, fel nad ydynt yn teimlo gymaint eu bod ar eu pen eu hunain.  

Mae’r Samariaid eisiau i safleoedd y cyfryngau cymdeithasol greu mannau diogel fel bod sgyrsiau cynorthwyol yn gallu digwydd, trwy gynnig canllawiau i bobl am sut y gallant siarad am y pynciau hyn ar lein mewn ffordd ddiogel, gan warchod eu hunain ac eraill ar yr un pryd.

Mae’r elusen yn galw ar yr holl safleoedd a phlatfformau i roi mwy o reolaeth i bobl dros y cynnwys a welant, sicrhau nad yw cynnwys am hunan-niwed a hunanladdiad byth yn cael ei wthio i ddefnyddwyr a gwella’r cymorth sydd ar gael.  

Gellir gweld canfyddiadau rhagarweiniol yr adroddiad a chaiff yr ymchwil ei chyhoeddi’n llawn gan Brifysgol Abertawe yn ystod y misoedd nesaf.

 

Rhannu'r stori