Rhys Davies

Mae Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies, a gynhelir bob blwyddyn, bellach yn derbyn ceisiadau.

Mae'r gystadleuaeth uchel ei bri yn cydnabod y straeon byrion Saesneg gorau oll sydd heb eu cyhoeddi mewn unrhyw arddull ac ar unrhyw bwnc hyd at uchafswm o 5,000 o eiriau gan awduron 18 oed neu'n hŷn a anwyd yng Nghymru, sydd wedi byw yng Nghymru am ddwy flynedd neu fwy, neu sy'n byw yng Nghymru ar hyn o bryd.

Bydd enillydd y wobr gyntaf yn derbyn £1,000 a bydd ei gais buddugol yn cael ei gynnwys mewn antholeg o straeon byrion a gyhoeddir gan Parthian Books.

Bydd 11 o ymgeiswyr eraill yn derbyn £100 a bydd eu gwaith hefyd yn rhan o'r antholeg o straeon byrion.

Sefydlwyd Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies ym 1991 ac fe'i cynhaliwyd 10 o weithiau hyd yn hyn. Mae Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe bellach yn rheoli'r gystadleuaeth ar ran Ymddiriedolaeth Rhys Davies ac mewn cydweithrediad â Parthian Books.

Enillydd y gystadleuaeth yn 2022 oedd Laura Morris, athrawes Saesneg o Gaerffili, am ei stori ‘Cree’.

Roedd Rhys Davies, a anwyd ym Mlaenclydach yng Nghwm Rhondda ym 1901, yn un o ysgrifenwyr rhyddiaith Saesneg mwyaf ymroddedig, toreithiog a dawnus Cymru. At ei gilydd, ysgrifennodd dros gant o straeon, ugain nofel, tair nofel fer, dau lyfr topograffaidd am Gymru, dwy ddrama a hunangofiant. 

Beirniad gwadd y gystadleuaeth ar gyfer 2023 yw Jane Fraser, awdur arobryn o Gymru.

Mae Jane wedi ysgrifennu dau gasgliad o ffuglen fer, The South Westerlies (2019) a Connective Tissue (2022), a chyhoeddwyd y ddau gan SALT. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Advent (2021), gan HONNO, gwasg i fenywod o Gymru, a dyfarnwyd Gwobr Goffa Paul Torday iddi gan The Society of Authors yn 2022.

Mae ei straeon byrion wedi bod yn llwyddiannus iawn mewn cystadlaethau rhyngwladol mawr ac mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi'n helaeth mewn antholegau, gan ymddangos mewn cyhoeddiadau megis New Welsh Review, The Lonely Crowd, TSS, Momaya Press, Retreat West, a Fish Publishing. Yn 2022, cafodd Jane ei chomisiynu gan BBC Radio 4 am y tro cyntaf i ysgrifennu 'Soft Boiled Eggs', sef darllediad stori fer a oedd yn rhan o'r gyfres Short Works.

Ar ôl cael ei phenodi'n Feirniad Gwadd y gystadleuaeth eleni, meddai Jane: “Mae'n destun cyffro ac anrhydedd i fod yn feirniad Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2023. Mae'n hyfryd gweld etifeddiaeth un o ysgrifenwyr straeon byrion gorau Cymru'n dathlu ac yn wir werthfawrogi ffuglen fer drwy'r gystadleuaeth a'r antholeg ganlyniadol gyda Parthian. Rwy'n dwlu ar y ffurf fer a'i phosibiliadau diddiwedd ac rwy'n gwybod y bydd yn fraint darllen gwaith pobl eraill sy'n defnyddio'r gelfyddyd fer ond hardd hon.”

Daw'r gystadleuaeth i ben ganol nos ar 16 Mawrth 2023. Cyhoeddir y rhestr fer ym mis Ionawr a chaiff yr enillydd ei goroni ym mis Medi.

Mae Cree: The Rhys Davies Short Story Award Anthology ar gael ar wefan Parthian.

Darllenwch yr holl amodau a thelerau

Rhannu'r stori