Cystadleuaeth ysgrifennu genedlaethol mawr ei bri ar gyfer ysgrifenwyr a anwyd neu sy’n byw yng Nghymru yw Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies. Cafodd y gystadleuaeth ei chreu nôl ym 1991 ac rydyn ni’n falch iawn o allu i rheoli wobr hon y mae sôn mawr amdani ar ran Ymddiriedolaeth Rhys Davies ar y cyd â Parthian Books.

Ynglŷn â Rhys Davies

Roedd Rhys Davies, a anwyd ym Mlaenclydach ger Tonypandy yn y Rhondda ym 1901, gyda’r ysgrifenwyr rhyddiaith Cymreig mwyaf ymroddedig, toreithiog a medrus a oedd yn ysgrifennu’n Saesneg. Gan ymroi’n ddiwyro a heb fawr o barch tuag at lwyddiant masnachol, bu’n ymarfer crefft yr ysgrifennwr am ryw bum deg o flynyddoedd ar ffurf y stori fer a’r nofel gan gyhoeddi yn ystod ei oes gorff sylweddol o waith sydd bellach yn waddol i’w fri llenyddol. Rhwng popeth, ysgrifennodd fwy na chant o straeon, ugain nofel, tair nofel fer, dau lyfr topograffigol am Gymru, dwy ddrama a hunangofiant.
Gwobrau
-
Gwobr 1af - £1,000 o bunnoedd sterling a chaiff y cais buddugol ei gyhoeddi mewn antholeg o straeon byrion a gyhoeddir gan Parthian Books yn 2023.
-
11 x Gwobr arall/Rownd derfynol gwobrau - £100 yr un a chaiff y ceisiadau eu cyhoeddi mewn antholeg o straeon byrion a gyhoeddir gan Parthian Books yn 2023.
Sut y Gystadlu
Ar agor ar gyfer ceisiadau: DYDD LLUN 12fed RHAGFYR 2022
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: DYDD MAWRTH 16eg MAWRTH 2023 AM HANNER NOS
Sut y Gystadlu:
- Darllenwch y Rheolau, Telerau ac Amodau Mynediad - Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2023
- Dalu’r ffi gystadlu ac i gael eich cyfeirnod unigryw CLICIWCH YMA. I gael manylion am gymhwysedd i gael mynediad am ddim, edrychwch ar y telerau ac amodau.
- Llenwch y ffurflen gais CLICIWCH YMA.

Mae’n bleser mawr gennym ni gyhoeddi y bydd Jane Fraser yn feirniad gwadd ar gyfer cystadleuaeth 2023
Mae Jane Fraser yn byw, yn gweithio ac yn ysgrifennu ffuglen mewn tŷ sy'n wynebu'r môr ym mhentref Llangynydd, ym mhenrhyn Gŵyr, de Cymru.
Hi yw awdur dau gasgliad o ffuglen fer, The South Westerlies (2019) a Connective Tissue (2022), a chyhoeddwyd y ddau gan SALT , un o gyhoeddwyr annibynnol mwyaf blaenllaw’r DU. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Advent (2021), gan wasg menywod Cymru, HONNO, a dyfarnwyd Gwobr Goffa Paul Torday y Gymdeithas Awduron iddi yn 2022.
Mae ei straeon byrion wedi bod yn llwyddiannus iawn mewn cystadlaethau rhyngwladol mawr: cyrhaeddodd y rownd derfynol ar gyfer Gwobr Ffuglen Manceinion (2017) ac mae hi wedi dod yn ail, wedi cael ei chynnwys ar y rhestr fer neu dderbyn clod ar gyfer Gwobr Stori Fer Fish, Gwobr Stori Fer ABR Elizabeth Jolley, Gwobr Stori Fer Caergrawnt, a Gwobr Genedlaethol Stori Fer Rhys Davies.
Mae ei gwaith wedi'i gynnwys mewn nifer helaeth o flodeugerddi gan arddangos mewn cyhoeddiadau gan New Welsh Review, The Lonely Crowd, TSS, Momaya Press, Retreat West, a Fish Publishing. Yn 2022, cafodd ei chomisiynu gan BBC Radio 4 am y tro cyntaf i ysgrifennu 'Soft Boiled Eggs' sef stori fer a ddarlledwyd fel rhan o'r gyfres Short Works.
Mae ganddi radd gyntaf B.Ed a gradd Meistr a gradd PhD mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Abertawe. Mae hi hefyd yn falch o fod yn un o Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli.
Twitter @jfraserwriter | Instagram @janefraserwriter | www.janefraserwriter.com