Cystadleuaeth ysgrifennu genedlaethol mawr ei bri ar gyfer ysgrifenwyr a anwyd neu sy’n byw yng Nghymru yw Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies. Cafodd y gystadleuaeth ei chreu nôl ym 1991 ac rydyn ni’n falch iawn o allu i rheoli wobr hon y mae sôn mawr amdani ar ran Ymddiriedolaeth Rhys Davies ar y cyd â Parthian Books.

Ynglŷn â Rhys Davies

Rhys Davies

Roedd Rhys Davies, a anwyd ym Mlaenclydach ger Tonypandy yn y Rhondda ym 1901, gyda’r ysgrifenwyr rhyddiaith Cymreig mwyaf ymroddedig, toreithiog a medrus a oedd yn ysgrifennu’n Saesneg. Gan ymroi’n ddiwyro a heb fawr o barch tuag at lwyddiant masnachol, bu’n ymarfer crefft yr ysgrifennwr am ryw bum deg o flynyddoedd ar ffurf y stori fer a’r nofel gan gyhoeddi yn ystod ei oes gorff sylweddol o waith sydd bellach yn waddol i’w fri llenyddol. Rhwng popeth, ysgrifennodd fwy na chant o straeon, ugain nofel, tair nofel fer, dau lyfr topograffigol am Gymru, dwy ddrama a hunangofiant.