Dr Elaine Canning

Yn wreiddiol o Belfast, mae Elaine Canning yn arbenigwr mewn ymgysylltu â'r cyhoedd, yn awdur ac yn olygydd sy'n byw yn Abertawe, de Cymru. Mae ganddi MA a PhD mewn Astudiaethau Sbaenaidd gan Brifysgol y Frenhines Belfast ac MA mewn Ysgrifennu Creadigol gan Brifysgol Abertawe. Ar hyn o bryd, hi yw Pennaeth Prosiectau Arbennig ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas. Yn ogystal ag ysgrifennu monograff a phapurau am ddrama Sbaeneg o'r oes aur, mae hi wedi cyhoeddi nifer o straeon byrion. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Sandstone City, gan Aderyn Press yn 2022. Hi hefyd yw golygydd Maggie O'Farrell: Contemporary Critical Perspectives (i'w gyhoeddi yn 2023 gan Bloomsbury). Mae hi'n aelod o Bwyllgor Cynghori'r British Council ac yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Matt Hughes photo

Gweinyddwr Marchnata ar gyfer prosiectau arbennig ym Mhrifysgol Abertawe yw Matthew Hughes. Ymunodd â'r Sefydliad Diwylliannol yn 2015 ac roedd am integreiddio ei sgiliau mewn ffotograffiaeth, dylunio creadigol a rheoli digwyddiadau mewn prosiectau a oedd yn amrywio o Wobr Dylan Thomas, Gŵyl Bod yn Ddynol a Gŵyl y Gelli. Mae ganddo ddiddordeb brwd yng nghelfyddydau a diwylliant Cymru ac mae wedi hyrwyddo gwaith llawer o bobl greadigol Cymru ar ddechrau eu gyrfaoedd dros y blynyddoedd.
Ymysg prosiectau creadigol eraill, mae Matthew wedi chwarae rôl allweddol fel curadur man geni Dylan Thomas yn Abertawe yn ystod dathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas yn 2014 - gan ymchwilio'n helaeth ac ail-greu ystafell wely'r bardd ar adeg cyhoeddi ei lyfr cyntaf '18 Poems' ym 1934. Yn ei amser hamdden, bydd Mathew yn dogfennu tirwedd newidiol a thrigolion gorllewin Cymru drwy ei ffotograffiaeth.