Croeso

Mae Canolfan Richard Burton ar gyfer Astudio Cymru yn dwyn ynghyd arbenigedd ac adnoddau yn Astudiaethau Cymru o fewn Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, gan annog ymchwil arloesol o ansawdd rhyngwladol a chynyddu synergeddau ar draws disgyblaethau. Mae'n gweithredu fel fforwm ymchwil rhyngddisgyblaethol, yn cynnal cyfres seminarau ymchwil, cynhadledd flynyddol ar thema benodol o berthnasedd cyfoes ac academaidd, ac yn denu ysgolheigion sy'n ymweld. 

Cyfarwyddwyr: Yr Athro Daniel G Williams, Yr Athro Martin Johnes, Yr Athro Kirsti Bohata