The Richard Burton Diaries, a olygwyd gan Chris Williams (Gwasg Prifysgol Yale, 2012) yw'r llyfr cyntaf i gynnwys mewn cyfrol sengl holl ddyddiaduron sydd wedi goroesi Richard Burton (a aned yn Richard Jenkins, 1925-1984). Cawsant eu hysgrifennu rhwng 1939 a 1983, ac maent yn cynnwys blynyddoedd ei yrfa odidog, a'i briodasau enwog ag Elizabeth Taylor.

Burton Diaries

Mae ei ddyddiaduron personol yn datgelu Richard Burton gwahanol iawn i'r dyn rydym yn ei 'adnabod' fel actor o fri, seren ffilm ryngwladol ac aelod o'r gymuned fyd-eang o sêr rhyngwladol. Yn ei rôl fel actor, bu Burton yn cydweithio â rhai cewri creadigol, yn eu plith, Olivia de Haviland, John Gielgud Claire Bloom, Laurence Olivier, John Huston, Dylan Thomas ac Edward Albee. Mae tudalennau ei ddyddiaduron preifat, a ysgrifennwyd yn ei law ei hun, yn datgelu person gwahanol iawn - dyn teulu, tad, gŵr, dyn a oedd yn aml yn anesmwyth ei fyd ond a oedd bob amser yn arsylwr craff. O'i ddeall trwy ei eiriau ei hun, mae Burton yn troi'n ddyn cyflawn sydd, â dawn anferthol a baich ansicrwydd annisgwyl, yn wynebu'r heriau neilltuol o fyw ei fywyd dan chwyddwydr.

Ar adegau, mae Burton yn cael trafferth ymdopi â photensial nas cyflawnwyd ei fywyd a'i ddoniau. Mewn cofnodion eraill, mae'n brolio am ei gyflawniadau, ac yn ysu am heriau mwy. Weithiau mae'n poeni am ei bwysau, ei arferion yfed, neu'n gwylio dynion eraill yn gwylio ei Elizabeth ef. Ond, drwy bopeth, mae'n huawdl, yn gryf ei farn ac yn hynod ddiddorol. Mae ei ddyddiaduron yn cynnig cipolwg prin a newydd ar ei fywyd a'i yrfa, ar fywyd a gyrfa Elizabeth Taylor, ac ar y byd cyfareddol roeddent yn byw ynddo, sef byd ffilm, theatr, ac enwogrwydd.