'Stride to Modernism': A Personal Journey Through Jazz Piano - Joe Webb

Nos Fawrth 10fed Tachwedd 2026 | 18:00-19:30
Canolfan Celfyddydau Taliesin, Prifysgol Abertawe, Campws Singleton, Abertawe SA2 8PZ

Ymunwch â ni ar achlysur 101fed pen-blwydd geni Richard Burton.

Yn y ddarlith hon, bydd y pianydd a ganwyd yng Nghastell-nedd, Joe Webb, yn myfyrio ar y dylanwadau a lywiodd ei ddatblygiad yn bianydd jazz arobryn. Wrth iddo olrhain rhai o’r cerddorion a’i ysbrydolodd, bydd Joe yn archwilio datblygiad piano jazz o ddechrau’r ugeinfed ganrif i’r 1960au: o Scott Joplin i Bud Powell, Mary Lou Williams i Hazel Scott, a Jelly Roll Morton i Herbie Hancock. Ar hyd y ffordd, bydd yn arddangos arloesiadau arddulliadol allweddol ac yn perfformio darnau sydd wedi dod yn elfennau allweddol o’r canon jazz. Ar ôl iddo ymroi’n llawn i’w yrfa fel perfformiwr yn ystod y degawd diwethaf, mae Joe yn edrych ymlaen at rannu ei daith gerddorol mewn ffordd wahanol drwy’r cyfuniad unigryw hwn o berfformio a sgwrsio.

Mae Joe Webb yn un o'r pianyddion jazz mwyaf aruthrol i ddod i'r amlwg ym Mhrydain yn ystod y blynyddoedd diwethaf - cerddor â thechneg ddi-ofn, hyder diamheuol a greddf felodaidd wedi'i llunio gan ei wreiddiau Cymreig. Cyrhaeddodd ei albwm cyntaf, Hamstrings & Hurricanes, y rhestr fer ar gyfer Gwobr Mercury 2025, ac mae wedi perfformio gyda Phedwarawd Wynton Marsalis, teithio gyda Jamie Cullum ac ymddangos ar Later… with Jools Holland, sy'n ei ddisgrifio fel "y chwaraewr piano newydd gorau yn y byd heddiw". Wedi'i gontractio  i Edition Records, mae Joe wedi’i ysbrydoli gan ragoriaeth meistri stride a jazz cynnar, wedi'i hidlo trwy synwyrusrwydd Prydeinig modern.

Mae Darlith Richard Burton yn rhan o gyfres flynyddol o ddigwyddiadau uchel eu bri a arweinir gan Ganolfan Richard Burton ar cyd â’r Sefydliad Diwylliannol ym Mhrifysgol Abertawe.

TOCYNNAU AM DDIM

 

Darlithoedd Blaenorol:

Siaradwyr

25 Ebrill 2013:  George W. S. Abbey Sr.

'Wales, America and the Space Race'

4 Hydref 2011:  John McGrath

‘From Blackwood to Brecon to Port Talbot’s Passion: The National Theatre Wales journey’