An aerial view of Singleton Campus and the bay opposite

Yr Athro Kirsti Bohata

Athro, English Literature

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602795

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Canolradd
209
Ail lawr
Adeilad Keir Hardie
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae'r Athro Kirsti Bohata yn ysgolhaig blaenllaw ym maes Llenyddiaeth Saesneg Cymru, ac mae hi wedi cyhoeddi ar ddamcaniaeth ôl-drefedigaethol, llenyddiaeth cwiar, astudiaethau anabledd a daearyddiaeth lenyddol o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg tan y presennol. Ei llyfr diweddaraf yw Disability in Industrial Britain (Manchester University Press, 2020) sy'n gyhoeddiad mynediad agored llawn.

Hi yw Cyfarwyddwr CREW (Y Ganolfan Ymchwil i Lenyddiaeth ac Iaith Saesneg Cymru) ym Mhrifysgol Abertawe ac mae hi'n gyd-Gadeirydd Cymdeithas Llên Saesneg Cymru. Mae hi'n cyflawni rolau ymgynghorol ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru, Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau.

Mae ei phrosiectau rhyngddisgyblaethol yn cynnwys cydweithrediadau â haneswyr, daearyddwyr diwylliannol, artistiaid gweledol, dramodwyr a gwyddonwyr cyfrifiadurol, gyda chefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Wellcome, yr AHRC a'r Academi Brydeinig.

Mae'r Athro Bohata yn croesawu cynigion ymchwil ôl-raddedig yn unrhyw un o'i meysydd arbenigedd a byddai'n falch o ystyried prosiectau rhyngddisgyblaethol.

Meysydd Arbenigedd

  • Llenyddiaeth Saesneg Cymru
  • Damcaniaeth Ôl-drefedigaethol
  • Llenyddiaeth a Damcaniaeth Cwiar
  • Astudiaethau Anabledd
  • Daearyddiaeth Lenyddol
  • Llenyddiaeth Fictoraidd Hwyr

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Kirsti Bohata yn addysgu modiwlau arbenigol ym maes Llenyddiaeth Saesneg Cymru ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, gan gynnwys, ‘Welsh Gothic' a ‘Gender, Genre and Nation: Women Writing Modern Wales’. Mae hi'n cydlynu modiwl lleoliad gwaith ar lefel MA sydd â'r nod o roi profiad gwaith i fyfyrwyr a chyfle i ymdrochi yn amgylchedd sefydliad diwylliannol, archifol neu dreftadaeth.

Mae hi'n cynnal modiwl israddedig am Lenyddiaeth Ôl-drefedigaethol ac yn addysgu dosbarthiadau am Ffeministiaeth y Fenyw Fictoraidd Newydd, archifau cwiar, drama ôl-drefedigaethol a ffeministaidd a rhyngblethedd.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau