An aerial view of Singleton Campus and the bay opposite
Professor Martin Johnes

Yr Athro Martin Johnes

Athro, History

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
121
Llawr Cyntaf
James Callaghan
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig
Sylwebydd y Cyfryngau

Trosolwg

Mae Martin Johnes yn Athro Hanes Modern ac yn arbenigo yn hanes Cymru a diwylliant poblogaidd ym Mhrydain fodern. Mae ef wedi cyhoeddi llyfrau ac erthyglau sy’n ystyried gwleidyddiaeth, chwaraeon, gwrywdod, hil, hunaniaeth genedlaethol, cerddoriaeth bop, trychinebau a llywodraeth leol. Wrth wraidd mwyafrif ei waith ymchwil y mae cwestiynau am hunaniaeth. Mae wedi archwilio sut mae pobl yn meddwl am bwy ydyn nhw a'u lle yn eu byd drwy amrywiaeth o leoliadau gwahanol ac ynddynt.

Mae ei waith ar chwaraeon wedi cynnwys astudiaethau o arwyddocâd cymdeithasol a diwylliannol pêl-droed yng Nghymru a dadansoddiadau o rôl hil mewn paffio ym Mhrydain. Mae ei waith ar Gymru yn cynnwys llyfr am yr ymatebion gwleidyddol i drychineb Aberfan a Wales since 1939, astudiaeth fawr a ddaeth â datblygiadau mewn cymdeithas, diwylliant a gwleidyddiaeth ynghyd yn y cyfnod ar ôl 1939 er mwyn archwilio hunaniaethau Cymreig. Mae hefyd wedi ysgrifennu llyfr yn trafod esblygiad ac arwyddocâd y Nadolig yn y Deyrnas Unedig ar ôl 1914.

Ei lyfr diweddaraf yw Welsh Not: Elementary Education and the Anglicization of 19th Century Wales, a gyhoeddir yn 2024. Hon yw'r astudiaeth academaidd gyntaf o'r Welsh Not gwaradwyddus ac mae'n archwilio sut y cafodd y Gymraeg ei thrin a'i chanfod mewn ysgolion yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ei brosiect presennol yw  Beyond Borders: The Second World War, National Identities and Empire in the UK. Wedi'i ariannu gan  AHRC, mae'n nodi sut roedd pobl gyffredin yn deall ac yn llywio syniadau o hunaniaeth genedlaethol ac Ymerodraeth yn ystod yr Ail Ryfel Byd.  Mae'n ceisio hanesyddoli ymhellach ddealltwriaeth o amrywiaeth y DU adeg rhyfel a dangos sut y cafodd hunaniaethau imperialaidd a chenedlaethol eu llywio drwy brofiadau o fyw yn hytrach na naratifau  sefydliadol,  gwleidyddol ac yn y cyfryngau’n unig.

Mae'r Athro Johnes wedi ymrwymo i le hanes mewn diwylliant cyhoeddus. Mae'n siaradwr rheolaidd mewn ysgolion a digwyddiadau cyhoeddus ac yn sylwebydd ac yn gyfrannwr yn y cyfryngau ar faterion hanesyddol a gwleidyddol. Ef oedd awdur a chyflwynydd y gyfres deledu Wales: England's Colony? ar y BBC yn 2019. Ceir detholiad o'i draethodau, ei erthyglau papur newydd, ei gyfweliadau podlediad a'i blog yn www.martinjohnes.com

Meysydd Arbenigedd

  • Chwaraeon Cymru
  • Hunaniaeth Genedlaethol
  • Gwrywdod
  • Diwylliant poblogaidd