Diffoddwyr tân yn taclo tân ar ochr bryn

Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru'n ymgymryd â gwaith llosgi er mwyn lleihau tanwydd a risg tanau gwyllt mewn cydweithrediad â Llethrau Llon (Llun: S Doerr) 

Gyda'r argyfwng hinsawdd yn cynyddu risg tanau gwyllt yn y DU a llawer o rannau eraill yng ngogledd Ewrop, mae gwyddonwyr o bedwar ban byd yn rhannu eu harbenigedd er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r peryglon.

Yr wythnos diwethaf, roedd academyddion o Brifysgol Abertawe ymhlith arbenigwyr tanau gwyllt y DU a rybuddiodd fod y tymereddau uchaf a gofnodwyd erioed ledled y wlad, ochr yn ochr â lleithder tanwydd hynod isel, wedi cynyddu'r tebygolrwydd y bydd tanau gwyllt difrifol ym Mhrydain.

Mae'r ffaith bod tanau difrifol yn digwydd ymhellach i'r gogledd nag erioed wedi cael ei amlygu gan y consortiwm FirEUrisk. Mae'r grŵp, sy'n cynnwys partneriaid o bedwar ban byd (sefydliadau ymchwil, prifysgolion a chwmnïau preifat), am feithrin ymagwedd unedig at fynd i'r afael â’r perygl cynyddol, gan ddatblygu dulliau newydd o asesu perygl tanau a pha mor agored i niwed y mae cymunedau a thirweddau.

Ei nod yw rhannu gwybodaeth â gwledydd nad ydynt wedi cael llawer o brofiad blaenorol o reoli tanau gwyllt eithriadol hyd yn hyn, er mwyn gwella eu gallu i atal y bygythiad cynyddol hwn ac ymateb iddo.

Esboniodd cydlynydd FirEUrisk, yr Athro Domingos Xavier Viegas o Brifysgol Coimbra ym Mhortiwgal, na fu tanau gwyllt mor gyffredin neu ddifrifol yn y gorffennol yng nghanolbarth a gogledd Ewrop ag y buont yn y de.

Meddai: “Rhaid i ni ein paratoi ein hunain ar gyfer tanau mewn ardaloedd lle nad oeddent yn digwydd o'r blaen, ac ar gyfer tanau sy'n fwyfwy difrifol. Mae FirEUrisk yn datblygu canllawiau, protocolau ac argymhellion y gall gwledydd yng nghanolbarth a gogledd Ewrop eu mabwysiadu.

“Cyn bo hir, bydd angen i'r gwledydd hyn roi trefniadau a pharatoadau ar waith sy'n debyg i’r hyn a geir mewn tiriogaethau yn y de.

“Mae angen i ni sicrhau bod Ewrop gyfan yn ardal ddiogel lle nad oes rhaid i ddinasyddion wynebu colledion materol neu ddynol o ganlyniad i danau eithafol.”

Er enghraifft, eleni, collodd y DU nifer digynsail o dai, llosgwyd ymhell dros 60,000 o hectarau yn Ffrainc eisoes, sy'n fwy na chyfanswm unrhyw flwyddyn gyfan ers i fonitro lloeren ddechrau yn 2008, ac mae Sbaen yng nghanol ei blwyddyn waethaf ers chwarter canrif gyda 352 o danau yn llosgi 229,645 o hectarau o dir.

Ychwanegodd yr Athro Stefan Doerr, sy'n arwain Canolfan Ymchwil i Danau Gwyllt Prifysgol Abertawe: “Gall llawer o fudd ddeillio o gydlynu a chyfnewid gwybodaeth mewn modd agosach ledled Ewrop, yn enwedig mewn ardaloedd y tu allan i Ganoldir Ewrop, lle bu tanau gwyllt difrifol yn brin yn hanesyddol.”

Mae un ardal beilot ar gyfer prosiect FirEUrisk yn ne Cymru lle mae'r fenter Llethrau Llon yn blaenoriaethu addysg a thechnegau diffodd tân newydd er mwyn lleihau'r difrod y mae tanau gwyllt yn ei achosi i dirwedd, bywyd gwyllt a chymunedau cymoedd de Cymru.

 

Rhannu'r stori