Tymereddau cynyddol ac amodau eithriadol o sych yn cyfrannu at berygl digynsail tanau gwyllt yn y DU

Yn ogystal â’r tymereddau uchaf a gofnodwyd erioed, mae’r DU yn wynebu amodau digynsail sy’n achosi perygl tanau gwyllt ac ymddygiad eithafol gan danau, yn ôl arbenigwyr tanau gwyllt. 

Mae tîm prosiect System Graddio Perygl Tanau'r DU – sy'n cynnwys arbenigwyr mewn tanau llystyfiant o brifysgolion ledled y DU (Prifysgol Manceinion, Prifysgol Birmingham, Prifysgol Caerwysg, Prifysgol Abertawe, Ysgol Economeg Llundain, Prifysgol Portsmouth) a Forest Research – bellach yn rhybuddio am ragor o risgiau wrth i dywydd poeth a sych yr haf barhau.

Mae gwaith dadansoddi a wnaed ym Mhrifysgol Abertawe'n dangos bod y mynegai tywydd tanau – sef mynegai rhifiadol sy'n nodi tebygolrwydd ymddygiad eithafol gan danau (a gyfrifir drwy ddefnyddio mesuriadau perthnasol o'r tywydd yn y tymor hir a'r tymor byr, gan gynnwys y tymheredd, lleithder cymharol, glaw a'r gwynt) – wedi cyrraedd lefel uwch nag erioed yr haf hwn.

Meddai Dr Tadas Nikonovas: “Y mynegai tywydd tanau ar 19 Gorffennaf oedd yr uchaf yn y DU ers o leiaf 1979 pan ddechreuodd y cofnod sydd ar gael. Mae'r ddelwedd isod yn dangos gwerthoedd uchaf y mynegai tywydd tanau yn Lloegr dros yr 20 mlynedd diwethaf ac yn amlygu pa mor eithafol oedd yr amodau ar y diwrnod hwnnw.”

Meddai'r Athro Stefan Doerr, sy'n arwain y Ganolfan Ymchwil i Danau Gwyllt ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae ein gwaith dadansoddi'n dangos, er y cafwyd tanau rhostiroedd cyn y tymereddau uwch nag erioed ym mis Gorffennaf ac ar ôl hynny, fod y tanau gwyllt trychinebus yn Lloegr ar 19 Gorffennaf ar laswelltiroedd a thir âr yn agos at ardaloedd poblog iawn. Yn wir, bu ychydig iawn o danau mewn ardaloedd mwy anghysbell, lle ceir llawer o danwyddau rhostiroedd yn nodweddiadol, ar ddiwrnod y tymereddau uchaf.”

Ychwanegodd Dr Thomas Smith, o Ysgol Economeg Llundain: “Mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu mai ychydig iawn o bobl a oedd allan yng nghefn gwlad ar ddiwrnod y gwres llethol gan fod y tywydd yn rhy boeth, gan leihau’r tebygolrwydd y byddai tanau’n dechrau ar rostiroedd. Rydyn ni'n gwybod y gallai'r tanau ar laswelltiroedd a thir âr a arweiniodd at golli nifer digynsail o dai ar 19 Gorffennaf fod wedi'u cynnau'n agos at gartrefi a gerddi lle roedd pobl yn cysgodi rhag y tywydd poeth.”

Mae data am leithder tanwyddau llystyfiant a gasglwyd gan y tîm ym Mhrifysgol Birmingham drwy gydol mis Gorffennaf yn dangos, mewn rhai achosion, fod lefelau lleithder rhai tanwyddau glaswelltog yn eithriadol o isel (0-1%). Dywedodd yr Athro Nick Kettridge fod y lleithder mor isel mewn rhai achosion na ellid ei fesur drwy ddefnyddio'r dull mesur cyffredin. “Mae'r lefel hon o sychder hefyd yn esbonio natur eithafol ymddygiad y tanau, gyda fflamiau mawr a thanau a oedd yn symud yn gyflym, hyd yn oed mewn lleoedd heb wyntoedd cryf,” meddai.

Disgwylir y ceir y tywydd tanau a'r amodau lleithder tanwyddau digynsail hyn yn amlach yn ystod y degawdau nesaf o ganlyniad i'r newid yn yr hinsawdd a achosir gan bobl.

Yn ôl yr Athro Claire Belcher, o Brifysgol Caerwysg, gellir gwneud llawer o bethau i leihau tebygolrwydd ac effeithiau posib tanau.

Meddai: “Rhaid croesawu cyfraniad manwerthwyr mawr at leihau nifer y tanau damweiniol drwy beidio â gwerthu cyfarpar barbeciw tafladwy mewn rhai rhanbarthau, ond mae risg gyffredinol tanau'n dal i fod yn uchel wrth i'r tywydd poeth barhau mewn rhannau o'r DU ar hyn o bryd.”

Ychwanegodd Dr Gareth Clay o Brifysgol Manceinion, sy'n arwain prosiect System Graddio Perygl Tanau'r DU, a ariennir gan Gyngor Ymchwil ac Arloesi'r DU: “Mae'r Swyddfa Dywydd yn darparu Mynegai Difrifoldeb Tanau (FSI), sy'n asesu pa mor ddifrifol y gallai tân fod pe bai un yn dechrau, ond nid yw hwn yn asesu risg tanau gwyllt. Er mwyn llenwi'r bwlch hollbwysig hwn, mae tîm ein prosiect yn ymchwilio i'r elfennau allweddol sy'n helpu i greu system graddio perygl tanau wedi'i theilwra ac effeithiol a all asesu tebygolrwydd ac effaith tanau gwyllt yng nghefn gwlad.”

 

Rhannu'r stori