Wildfire

Cenhadaeth y Ganolfan Ymchwil i Danau Gwyllt ryngddisgyblaethol yw darparu'r wybodaeth angenrheidiol i alluogi ein cymdeithas i ragweld, lliniaru ac addasu i'r bygythiad cynyddol o danau gwyllt yn y DU ac yn fyd-eang. Mae'n cyfuno arbenigedd ei haelodau ym Mhrifysgol Abertawe ar draws sawl disgyblaeth, o'r gwyddorau daearyddol, biolegol, cymdeithasol a pheirianneg, ag arbenigedd ei rhwydwaith gweithredol o dros 100 o gydweithredwyr allanol. Mae'r rhain yn cynnwys gwyddonwyr a sefydliadau defnyddwyr terfynol o bob cyfandir lle ceir poblogaeth sefydlog.

Arweinir y Ganolfan gan y grwpiau ymchwil Deinameg Amgylcheddol a Modelu Amgylcheddol Byd-eang ac Arsylwi’r Ddaear, yn Adran Ddaearyddiaeth y Brifysgol. Mae'r prif feysydd ymgysylltu a'r arbenigeddau ymchwil presennol yn cynnwys:

  • Asesiadau perygl tân mewn rhanbarthau trofannol a thymherus
  • Cydbwysedd carbon mewn tân
  • Effeithiau tân ar briddoedd, gan gynnwys priddoedd organig a mawn
  • Proses creu siarcol/carbon pyrogenig, a'u nodweddion
  • Tueddiadau o ran digwyddiadau tân, a'r effeithiau ledled y byd
  • Rhagweld a lliniaru erydu a halogiad dŵr a waethygir gan dân
  • Effeithiolrwydd ac effeithiau amgylcheddol ymagweddau at reoli tanwydd
  • Gwyddor Gymdeithasol: canfyddiadau ynghylch tân, mesurau lliniaru ac addasu
  • 'Gwirio'r gwirionedd' o ran honiadau yn y cyfryngau

Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Danau Gwyllt: Yr Athro Stefan Doerr

Cyd-gyfarwyddwr: Yr Athro Peter North

Tree on fire
Dr Cristina Santin
Trees after fire
Charred trees