Ymchwil sy'n arwain y byd
Daeth Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe gydradd 8fed yn y DU am effaith ymchwil ac yn 11eg yn y DU am amgylchedd ymchwil, yn ôl canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014.
Barnwyd bod ein hamgylchedd ymchwil (sut mae'r adran yn cefnogi ei staff a'i myfyrwyr ymchwil) ac effaith ein hymchwil (ei gwerth i gymdeithas) 100% yn arwain y ffordd yn fyd-eang neu'n ardderchog yn rhyngwladol.