Delwedd loeren o Rewlif Pine Island, sy'n gyfrifol am chwarter y golled iâ o Antarctica.Lle mae'n cwrdd â'r cefnfor, mae'r tafod iâ'n 30km o led ac yn llifo dros 15 metr y dydd (lliwiau pinc i wyn).

Delwedd loeren o Rewlif Pine Island, sy'n gyfrifol am chwarter y golled iâ o Antarctica.Lle mae'n cwrdd â'r cefnfor, mae'r tafod iâ'n 30km o led ac yn llifo dros 15 metr y dydd (lliwiau pinc i wyn).

Mae ffilm i ddisgyblion ysgol am doddi iâ yn Antarctica a lefel y môr yn codi, a wnaed gan dîm sy’n cynnwys arbenigwr pegynol o Brifysgol Abertawe, wedi ennill Gwobr Arian   nodedig The Geographical Association (GA).

Datblygwyd y ffilm – Antarctica, ice melt and global sea level rise – gan Time for Geography ac mae’n cynnwys clipiau treiglad amser o lif iâ a gasglwyd gan yr Athro Adrian Luckman o adran ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe . 

Mae’r Athro Luckman yn rhewlifegwr ag arbenigedd mewn delweddu lloeren. Gan ddefnyddio data gan NASA a’r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, mae ei ymchwil yn taflu goleuni ar yr hyn sy’n digwydd yn y rhanbarthau pegynol. Yn 2017, bu’n monitro hollti rhewfryn 1 triliwn tunnell enfawr o sgafell iâ Larsen C yn Antarctica.

Mae’r ffilm yn cynnwys dilyniannau delweddau lloeren o Rewlif Thwaites  a Rhewlif Pine Island, a ddarparwyd gan yr Athro Luckman, sy’n seiliedig ar ddata gan loeren Copernicus Sentinel-1 yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd.  

Cynhyrchwyd y ffilm gan Time for Geography, platfform fideo mynediad agored ar gyfer addysg daearyddiaeth a geowyddoniaeth.  Roedd yn gydweithrediad rhwng arbenigwyr o brifysgolion Durham, Newcastle a Royal Holloway.

Y GA yw cymdeithas fwyaf blaenllaw’r pwnc ar gyfer athrawon daearyddiaeth. Mae'r wobr yn cydnabod cyfraniad arwyddocaol y fideo at addysg ddaearyddiaeth mewn ysgolion uwchradd a datblygiad proffesiynol athrawon, drwy ddod â gwaith ymchwilwyr blaenllaw Antarctica i ystafelloedd dosbarth ysgolion.

Dyma'r adborth a gafwyd gan banel y wobr:

“Mae'r fideo hwn ar Antarctica'n ddiddorol; mae'r cyflwyniad yn glir iawn, ac mae'r modelu'n eich ysgogi. Mae'r fideo ar lefel dda ar gyfer myfyrwyr TGAU a Safon Uwch. Mae mapiau'r stori'n ychwanegiad defnyddiol. Dyma beth rydym bellach yn ei ddisgwyl gan Time for Geography.”

Meddai Dr Rob Parker o Time for Geography:

"Y wobr Arian yw gwobr uchaf y GA ac mae'n dyst ardderchog i lwyddiant ein partneriaeth hirdymor wrth gefnogi addysg uwchradd, ac i'r cydweithio gwych gan bawb a wnaeth helpu i wneud y fideos hyn yn bosib".

Ychwanegodd yr Athro Adrian Luckman o Brifysgol Abertawe:   

"Mae'n hyfryd bod yn rhan o fenter mor wych sy'n cyfuno ymchwil rewlifegol a gwaith allgymorth i ysgolion. Llongyfarchiadau i'r tîm cyfan."

Cefnogwyd y fideo gyda chyllid gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol.

Mae'r GA yn cefnogi addysg ddaearyddiaeth o safon drwy alluogi athrawon daearyddiaeth i rannu syniadau a dysgu oddi wrth ei gilydd. Maen nhw'n cefnogi anghenion proffesiynol athrawon drwy:

  • gyhoeddi teitlau addysg ddaearyddiaeth, cyfnodolion proffesiynol, adnoddau addysgu ar-lein, arweiniad awdurdodol a gwefan ar gyfer daearyddwyr ifanc
  • cynnal cynadleddau a digwyddiadau datblygiad proffesiynol, rhwydweithiau lleol, prosiectau'r cwricwlwm ac achrediad ar gyfer ysgolion ac athrawon
  • eirioli dros ddaearyddiaeth ac arwain trafodaethau cyhoeddus am addysg ddaearyddiaeth.

 

Rhannu'r stori