Tri llun o ddisgyblion ysgol yn cymryd rhan mewn gweithgareddau celf dan do.

Cafodd mwy na 250 o bobl ifanc gyfle i ddarganfod mwy am ganlyniadau go iawn newid yn yr hinsawdd mewn cymunedau sy'n wynebu amgylchiadau heriol yn ystod digwyddiad arbennig a gyflwynwyd gan Brifysgol Abertawe.

Cymerodd y disgyblion o Ysgol Gynradd Eglwys Gadeiriol San Joseff, Ysgol yr Olchfa, Ysgol Gynradd Parkland ac Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt ran mewn cyfres o weithdai arbennig a sesiynau adrodd straeon creadigol a gynhaliwyd yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin. 

Amlygodd y digwyddiad lyfr darluniadol unigryw i blant a gafodd ei olygu gan yr Athro Sergei Shubin o'r Brifysgol. Mae A Canvas of Children’s Lives yn cynnwys tair stori a ysgrifennwyd gan blant o bentref ym Mangladesh. Yn ogystal â'r fersiwn Saesneg, mae hyn ar gael ar ffurf llyfr llafar yn Gymraeg, Cholitho Bhasha a Sylheti. 

Cafodd ei ddatblygu ar ôl i blant ysgol rannu eu profiadau o dlodi ym Mangladesh fel rhan o brosiect PACONDAA, sy'n ceisio ysgogi cymunedau ffermio lleol i nodi arferion gorau ar gyfer y dyfodol a dweud eu dweud am effaith gymdeithasol-economaidd achosion niferus o glefydau. 

Meddai'r Athro Shubin: “Rydyn ni wedi bod wrth ein boddau i groesawu pedair ysgol leol i Brifysgol Abertawe am ein digwyddiad arbennig dros ddau ddiwrnod. 

“Rydyn ni'n gobeithio y bydd y llyfr hwn sy'n llawn lleisiau plant o Fangladesh yn amlygu gwirioneddau a heriau tlodi a newid yn yr hinsawdd yng ngwledydd De'r Byd ac yn eu hysbrydoli i ymateb iddyn nhw. Gwnaethon ni archwilio'r straeon hyn gan ddefnyddio gwaith celf ac adrodd straeon ac rydyn ni'n gobeithio y bydd hyn yn ennyn brwdfrydedd plant am y materion allweddol ym maes daearyddiaeth a'u hysbrydoli i ddod yma i astudio yn y dyfodol.” 

Cyflwynwyd y llyfr a'r pynciau y mae'n eu trafod – o gnydau'n methu ar ôl tywydd eithafol i deuluoedd yn cael eu rhwygo gan ffactorau economaidd – i'r plant cyn iddynt gymryd rhan mewn sesiynau creadigol. 

Gwnaethant hefyd glywed sgwrs a esboniodd sut mae astudio daearyddiaeth yn ein helpu i feithrin dealltwriaeth well o'r argyfwng hinsawdd, yn ogystal â materion megis mudo, gofod trefol a deinameg amgylcheddol.

Meddai Michael Viney, o Ysgol Gynradd Parkland, fod y profiad yn werthfawr: “Gwnaeth y plant fwynhau’r cyfle i weithio gydag ymarferwyr creadigol ac arbenigwyr i ddysgu am effeithiau newid yn yr hinsawdd ar deuluoedd ym Mangladesh. 

“Drwy weithdai adrodd straeon a chelf, cawson nhw eu hannog i ofyn cwestiynau diddorol am y llyfr ac uniaethu â'r heriau niferus y mae'r wlad a'i phobl yn eu hwynebu. Cafodd llawer o'r plant eu hysbrydoli gan yr agweddau gwahanol ar ddaearyddiaeth ac maen nhw'n awyddus i gael rhagor o wybodaeth.”   

Ychwanegodd Nicola Purdie o Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt: “Roedd yr adnoddau a'r deunyddiau a ddarparwyd gan Sefydliad Ymchwil Gweithredu ar yr Hinsawdd (CARI) y Brifysgol heb eu hail. Cafodd ein dysgwyr eu hysbrydoli gan y straeon a rhoddodd y gweithgareddau creadigol gyfle iddyn nhw ystyried effaith newid yn yr hinsawdd mewn modd dyfnach, gan archwilio'r effaith negyddol ar gymdeithasau yn ogystal â'r amgylchedd.”   

Dywedodd fod y dysgwyr bellach yn edrych ymlaen at ragor o ddigwyddiadau wedi'u trefnu gan yr Athro Shubin a Tamsin Morris. “Gwnaethon nhw danio cariad at ddaearyddiaeth,” meddai. 

Meddai Dr Kevin Rees, Pennaeth yr Adran Ddaearyddiaeth: “Rydyn ni'n gwybod bod pobl ifanc yn poeni am newid yn yr hinsawdd a sut gall effeithio arnyn nhw a bywydau pobl eraill yn y dyfodol. Mae’r ymchwil hon yn amlygu straeon dynol iawn ac effeithiau personol newid yn yr hinsawdd ar y rhai hynny sy'n byw yng ngwledydd De'r Byd mewn ffordd arloesol a hygyrch. 

“Roedd hi'n hyfryd gweld plant lleol yn dangos cymaint o frwdfrydedd am ddaearyddiaeth yn y digwyddiad hwn.”

Rhagor o wybodaeth am astudio daearyddiaeth yn Abertawe

 

Rhannu'r stori