solar panel roof of active building

Cyflymu'r broses gyfiawn o bontio i ffyrdd o fyw sy'n cael effaith niwtral ar yr hinsawdd a mwy.

Nod ein Sefydliad Ymchwil yw dod â holl aelodau cymuned Prifysgol Abertawe ynghyd er mwyn cydweithredu wrth ymladd dros ddyfodol planed ar gyfer ein plant.

Mae'r meysydd mae angen i ni ganolbwyntio arnynt yn cynnwys:

  1. Gwyddor gymdeithasol
    I gymryd camau cadarnhaol i fynd ymhellach na charbon sero, mae angen newid ein hymddygiad yn llwyr. Mae angen i ni barhau i ledaenu'r neges am yr argyfwng hinsawdd ac annog mwy o sgyrsiau a gweithredu cymdeithasol ar gyfiawnder hinsawdd. Bydd gweithio gyda chydweithwyr ym mhob rhan o'r Brifysgol yn helpu i wireddu syniadau ac atebion.
  2. Gwyddoniaeth
    Mae ein Cyfadran yn llawn gwyddonwyr sy'n gweithio ar amrywiaeth o brosiectau i ddatrys yr heriau byd-eang hyn. Bydd y sefydliad ymchwil yn cydgrynhoi'r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud ym meysydd effeithiau'r hinsawdd a'u lliniaru, tanau gwyllt, archifau'r hinsawdd (creiddiau iâ, cylchoedd coed), synhwyro o bell, rhagfynegi'r tywydd, cryosffer, bioamrywiaeth a ffyrdd bioffilig o fyw. Bydd cysylltu ein holl syniadau, arbenigedd a chyfleusterau ynghyd, yn cael effeithiau ar y byd rydym yn byw ynddo.
  3. Peirianneg
    Rydym wedi dod yn llunwyr polisi ac yn arweinwyr syniadaeth oherwydd ein harbenigedd sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang ym maes deunyddiau. O greu adeiladau gweithredol ac ymchwil arloesol i dechnoleg ffotofoltäig, i fodelu cyfrifiadol a datblygu prosesau gweithgynhyrchu glanach, mae gweithio tuag at amgylchedd glanach a gwyrddach bob amser wedi bod yn nod i'n peirianwyr.
  4. Y tu hwnt i'r Gyfadran
    Mae angen i'n gwaith gael effaith ehangach. Gyda'n gilydd, mae angen i'n holl leisiau wneud digon o sŵn i ysgogi ac annog newidiadau byd-eang. Mae angen i ni newid ein seicoleg a dyniaethau'r hinsawdd i weld buddion uniongyrchol i'n planed a'n hiechyd.

Rydym am arwain newid, a'n nod yw creu grŵp ymchwil cytbwys, cynhwysol ac amrywiol, a fydd yn parhau i gydweithio i orfodi ac annog newidiadau byd-eang.

Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig

Mae ein hymchwil yn cyfrannu at lwyddiant y nodau penodol hyn.