Mae swm cyfyngedig o dir ar gael i ddarparu'r amrywiaeth eang iawn o ganlyniadau sy'n hanfodol er mwyn ategu cymdeithas a chynnal ecosystemau'r Ddaear a'r fioamrywiaeth y maent yn eu hategu. Mae patrymau defnydd tir a dulliau rheoli tir presennol yn achosi i fioamrywiaeth ddirywio'n sylweddol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.

Mae newid yn yr hinsawdd yn peri i'r argyfwng bioamrywiaeth waethygu'n gynyddol ac yn gyflym. Mae hefyd yn effeithio ar gynnyrch amaethyddol byd-eang ac yn ysgogi blaenoriaethu newydd o ran defnydd tir sydd weithiau'n gwrthdaro, er enghraifft: storio carbon (sero net), darparu dŵr, cynhyrchu ynni (adnewyddadwy) a lleihau risg llifogydd (‘atebion ar sail natur’ mewn ymateb i newid yn yr hinsawdd). Bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau cymhleth ac anodd ar ddefnydd tir, a'r posibilrwydd o newid sut caiff tir ei ddefnyddio a'i reoli, er mwyn mynd i'r afael â galwadau am bobl a natur sy'n gwrthdaro.

Mae Prifysgol Abertawe'n gweithio ar draws disgyblaethau gwyddonol i lunio'r dystiolaeth a meithrin y ddealltwriaeth sy'n ofynnol er mwyn datblygu a darparu systemau cynhyrchu cynaliadwy ar y tir ac ecosystemau cydnerth, a chefnogi'r rhai hynny sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch rheoli tir.

Yr Athro Geoff Proffitt

Athro Emeritws (Peirianneg), Faculty of Science and Engineering
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dr Jon Walker

Uwch-swyddog Ymchwil, Biosciences
+44 (0) 1792 205678 ext 1525

Dr Cai Ladd

Darlithydd, Geography
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Brosiectau

Mae cynhyrchu cwrw, sy'n un o'r diwydiannau bwyd-amaeth mwyaf, yn arwain at symiau mawr o ddŵr gwastraff a grawn a ddisbyddwyd sy'n llawn maethynnau. Mae'r ffordd linol gonfensiynol o drafod gwastraff, sef “casglu-trin-dadlwytho”, yn ddrud ac yn anghynaliadwy'n amgylcheddol. Bydd y prosiect hwn yn defnyddio technoleg ficroalgaidd i droi'r gwastraff hwn yn gynhyrchion defnyddiol, gan greu ffrydiau refeniw newydd ar gyfer bragdai, lleihau eu heffeithiau ar yr amgylchedd, a hyrwyddo bioeconomi gylchol.

Ariennir AlgaeBrew gan Defra (cydweithrediad â phartneriaid a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd).

Mae gan fasn afon y Gambia goedwigoedd mangrof helaeth sy'n addas ar gyfer bioamrywiaeth a dal carbon. Fodd bynnag, mae'r cynefinoedd hyn dan fygythiad hefyd gan newid yn yr hinsawdd, ymwthiad heli a chamreoli.

Drwy greu Rhaglen Gwyddoniaeth Dinasyddion Arfordirol, mae'r prosiect hwn yn hwyluso ymchwil gyfranogol a gweithredoedd cymunedol i ddiogelu ecosystem afon y Gambia a bywoliaethau'r bobl sy'n dibynnu arni.

Mae hyrwyddo Cadwraeth yn y Gambia'n gydweithrediad â Sefydliad GREAT drwy gyllid gan National Geographic.

Mae rhwydwaith Narrating Rural Change yn dod â grŵp amlddisgyblaethol o ymchwilwyr, artistiaid, sefydliadau cymunedol, cyrff anllywodraethol ac eraill ynghyd sydd â diddordeb uniongyrchol mewn mynd i'r afael ag agweddau diwylliannol a dynol ar newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth mewn cymunedau amaethyddol. Mae'n archwilio'r ffyrdd rydym yn sôn am newid gwledig, yn y gorffennol, nawr ac yn y dyfodol. Pa straeon a adroddwyd a pha naratifau a allai lywio ymatebion gwledig a chenedlaethol i'r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.

  • Prosiect adfer morwellt mwyaf y DU – sut mae planhigyn morol mawreddog blodeuol yn ymladd yn erbyn cynhesu byd-eang
  • Defnyddio mangrofau i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd – cydweithrediad byd-eang gwirioneddol